Am ffi, gallwch ofyn inni gasglu eitemau mawr nad ydynt wedi'u cynnwys fel rhan o'r casgliadau wythnosol.
Ni allwn gasglu’r eitemau canlynol:
- gwastraff asbestos
- cynhyrchion plastr neu fwrdd plastr
- gwastraff busnes
- tanciau olew gwres canolog
- poteli nwy
- batris car
- deunyddiau fflamadwy neu dan bwysau
- tuniau paent
- eitemau wedi'u baeddu neu wedi'u halogi
Y tâl lleiaf yw £22 am hyd at dair eitem. Gellir casglu mwy o eitemau am gost ychwanegol.
Mae'r pris terfynol yn cael ei arddangos yn glir cyn y gofynnir am daliad. Ni allwn ddychwelyd nac ad-dalu.
Pan fyddwch wedi gwneud eich cais, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau'r diwrnod casglu.
Archebwch gasgliad gwastraff swmpus
Sylwch fod y gwasanaeth hwn ar gyfer eiddo domestig yn unig. Dylai cwsmeriaid busnes wneud cais trwy gasgliad gwastraff busnes arbennig.