Gweld eich diwrnod casglu

Rydym yn casglu eich:

  • gwastraff bwyd ac 'ailgylchu sych' bob wythnos
  • gwastraff cewynnau a hylendid bob pythefnos (os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn)
  • gwastraff gardd bob tair wythnos (bydd hyn yn ailddechrau Chwefror 2024)
  • gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos

Sut ddylwn i gyflwyno fy ngwastraff ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu?

  • rhowch yr eitemau cywir yn y cynwysyddion cywir
  • clymwch eich bagiau cadi gwastraff bwyd yn dynn
  • caewch y fflapiau a'r caeadau ar eich bagiau a'ch cadi
  • defnyddiwch fagiau, bocsys, cadis a bagiau gwastraff bwyd a ddarperir gan y cyngor yn unig ar gyfer eich ailgylchu
  • peidiwch â defnyddio unrhyw fath arall o gynhwysydd, gan gynnwys unrhyw fagiau plastig untro
  • rhowch eich cynwysyddion yn eich man casglu cyn 6am ar eich diwrnod casglu