Banciau ailgylchu

Mae llawer o leoliadau banciau ailgylchu ar draws Casnewydd.

  • maent ar gyfer symiau bach o ailgylchu yn unig
  • os yw'r biniau’n llawn, rhowch wybod i ni ac ewch â'ch eitemau adref
  • peidiwch â gadael eitemau ar y llawr. Os gadewir bagiau, byddant yn cael eu harchwilio. Efallai y cewch hysbysiad cosb benodedig am dipio anghyfreithlon

Lleoliadau banciau ailgylchu:

Maes parcio golygfa Christchurch

  • gwydr

Ffordd Cas-gwent, cilfan yr A48 (Parc Seymour)

  • gwydr

Y Ganolfan Ddinesig (prif fynedfa)

  • gwydr

Hill St (ffordd wasanaeth)

  • gwydr

Maes parcio Maendy

  • caniau a photeli plastig
  • gwydr
  • papur

Sainsburys, A4042 Crindai

  • dillad ac esgidiau
  • batris cartref (yn y siop)
  • plastigau meddal

Gellir ailgylchu eitemau a gesglir yn eich casgliad cartref wythnosol. Gallwch hefyd:

  • gofyn am flychau a bagiau ychwanegol
  • trefnu ymweliad â'r ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref
  • gofyn am gasglu eitemau cartref mwy (am ffi fach)

Batris

Os oes angen i chi gael gwared ar fatris cartref, gallwch fynd â nhw i'r llyfrgelloedd canlynol:

  • Bettws
  • Caerllion
  • Canolog
  • Malpas
  • Pilgwenlli
  • Ringland
  • Tŷ-du

Neu ganolfan ailddefnyddio Wastesavers (138-142 Chepstow Road)

Ailgylchu bagiau siopa ac polythen

Gellir ailgylchu'r rhan fwyaf o becynnau polythen plastig mewn mannau casglu bagiau siopa mewn archfarchnadoedd mwy. Mae'r label ailgylchu ar becyn (OPRL) yn dweud wrthych pa fathau o blastig y gellir eu cymryd.

Gwiriwch gyda'ch archfarchnad leol.

Darllenwch fwy ar wefan OPRL.