Panel Dinasyddion
Panel o breswylwyr Casnewydd yw Cynnwys Casnewydd sydd wedi cytuno i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau a chynrychioli barn pobl y ddinas.
Defnyddir y panel ar y cyd â phartneriaid y cyngor drwy Grŵp Cyflawni Lleol Casnewydd yn Un (is-grŵp o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent).
Mae gan banel Cynnwys Casnewydd oddeutu 700 o aelodau sy’n derbyn o leiaf pedwar arolwg y flwyddyn a gall unrhyw un sy’n byw yn y ddinas ymuno, gan gynnwys pobl ifanc.
Cynnwys Casnewydd yw un o’r ffyrdd gorau i ymgynghori â chymunedau lleol am faterion a gwasanaethau lleol.
Darllenwch fwy am banel dinasyddion Cynnwys Casnewydd.
Hysbysiad preifatrwydd - Panel dinasyddion cynnwys Casnewydd (pdf)