Mae Friars Walk yn gynllun hamdden a siopa mawr yng nghanol dinas Casnewydd gyda mwy na 36,230 metr sgwâr o ofod manwerthu a hamdden, gan gynnwys sinema, siopau, bwytai, maes parcio a gorsaf fysus.
Mae datblygiad Friars Walk wedi cynyddu dalgylch Casnewydd o 211,000 i 367,000 gyda tua 10-12 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn (Ffynhonnell: Javelin/DTZ).
Bydd hyn yn dyblu gwerthiannau manwerthu’r ddinas, gan ychwanegu £100 miliwn y flwyddyn.
Diwrnod agor
Agorwyd Friars Walk ar 12 Tachwedd 2015 gan Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd a Phrif Weinidog Cymru.
Roedd 102,000 o ymwelwyr ar y diwrnod agor a 350,000 o ymwelwyr dros y penwythnos cyntaf.
Mae manwerthwyr allwedol yn Friars Walk yn cynnwy Next, Topshop, New Look, River Island, H&M a llawer o fanwerthwyr eraill yn llenwi’r unedau.
Ymhlith y bwytai poblogaidd sydd wedi agor yno mae Nando’s, Las Iguanas, Bistro Pierre, Prezzo, Zizzo, Wagamama a Drago Lounge
Ac mae gan ganol y ddinas sinema unwaith eto ar ôl i Cineworld agor!
Mae Friars Walk wedi’i ddylunio i annog siopwyr i symud drwodd i Commercial Street a’r ardaloedd manwerthu cyfagos.
Mae sgwâr newydd yn cysylltu Friars Walk â glan yr afon, Prifysgol De Cymru a’r bont eiconig.
Mae maes parcio newydd gyda 350 o leoedd a gorsaf fysus newydd.
Ymwelwch â gwefan Friar’s Walk i gael rhagor o wybodaeth.
Amserlen
- Gwnaeth Cyngor Dinas Casnewydd benodi Queensberry Real Estate i ddatblygu Friars Walk yn 2010
- Ym mis Rhagfyr 2013, cytunodd y cyngor i fenthyg £90 miliwn i Queensberry Real Estate mewn bargen fasnachol i sicrhau bod modd cyflawni’r datblygiad yn brydlon
- Dechreuwyd y gwaith o ddymchwel Sgwâr John Frost yn 2014 – a daeth i ben gyda’r ffrwydrad rheoledig a ddymchwelodd faes parcio Capitol.
- Dechreuodd y gwaith adeiladu’n swyddogol yn wythnos gyntaf mis Ebrill 2014 ac yn dilyn cynnydd cyflym, cynhaliwyd seremoni gosod y garreg gopa ar 11 Rhagfyr 2014
- Yn rhan o waith Queensberry’n datblygu Cynllun Friars Walk, cynhaliwyd archwiliad archeolegol i leoli unrhyw adeiladau hanesyddol ar y safle. Daethpwyd o hyd i weddillion yn union yn lle’r oedd disgwyl a chawsant eu cofnodi a’u hamddiffyn ar ôl gweithio gydag arbenigwyr.
- Agorodd Friars Walk ar 12 Tachwedd 2015