Hanes

Mae lleoliad Casnewydd wrth aber yr afon Wysg wedi denu ymwelwyr ers canrifoedd. Mae hanes y ddinas yn dyddio'n ôl i anheddiad Celtaidd 2000 o flynyddoedd yn ôl

Ar gyrion eithaf yr ymerodraeth Rufeinig, Caerllion oedd y safle a ddewiswyd ar gyfer lleng-gaer strategol yr 2il leng (Awgwstaidd) o ran olaf y ganrif 1af OC. Mae olion y barics, ty baddon ac amffitheatr ymhlith y safleoedd milwrol Rhufeinig gorau sydd wedi goroesi ym Mhrydain.

20 mlynedd yn ddinas

Yn 2022, mae Casnewydd yn dathlu 20 mlynedd fel dinas.

Yn y cyfnod hwnnw, mae'r ddinas wedi cynnal digwyddiadau mawr, wedi elwa o fuddsoddiad mawr ac wedi tyfu o ran statws a diwylliant.

20 mlynedd yn ddinas
20YearsCity Changing Face Welsh 20YearsCity Events Welsh
 20YearsCity Heritage Welsh  20YearsCity Investment Welsh

 

Casnewydd yr Oesoedd Canol

Ymgartrefodd y Normaniaid hefyd yn y dref gan adeiladu castell ar lan yr afon Wysg yn y 12fed ganrif, y gellir gweld olion ohono o hyd heddiw.

Derbyniodd y dref ei Siarter gyntaf yn 1385.

Er bod dogfennau wedi goroesi o'r cyfnod hwn, ychydig o dystiolaeth a ddaeth i'r amlwg i gadarnhau pwysigrwydd Casnewydd yn ystod yr oesoedd canol hwyr, hyd nes darganfod llong oedd bron yn gyflawn yn 2002.

Er nad yw'r holl ffeithiau yn glir ar hyn o bryd, mae'n ymddangos mai dyma’r dystiolaeth bendant gyntaf bod Casnewydd yn ganolfan ddiwydiannol a masnachol o bwys yng nghyfnod yr oesoedd canol.

Tyfu ac ehangu

Ehangodd Casnewydd yn gyflym gan newid o fod yn dref porthladd fechan i un o'r llefydd mwyaf pwysig yn y wlad ar gyfer allforio glo a chynhyrchu dur yn ystod Chwyldro Diwydiannol y 19eg ganrif.

Daeth y dref yn adnabyddus am ei dociau modern hygyrch. Ffynnodd masnach ac ychwanegwyd at enw da Casnewydd yn dilyn ymestyniad y dociau ymhellach - yn 1914 roedd Casnewydd yn cludo dros 6 miliwn tunnell o lo y flwyddyn.

Y Siartwyr

Roedd Gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd yn 1839 yn ymwneud â’r gofynion gwleidyddol a wnaed gan y Siartwyr, oedd yn cynnwys pleidlais i bob dyn dros 21 oed, pleidlais gudd, cyflogau i Aelodau Seneddol a diddymu’r gofyniad eiddo i gael bod yn Aelod Seneddol.

Cafodd pob un o'r gofynion hyn eu hymgorffori o fewn Datganiad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol ym 1948.

Cafodd dau ar hugain o Siartwyr eu saethu'n farw gan filwyr a chaethgludwyd eu harweinwyr i Awstralia ond cawsant bardwn yn ddiweddarach.

Dioddefodd y dynion hyn dros egwyddorion yr ydym bellach yn eu cymryd yn ganiataol ac sy'n sylfaen i ddemocratiaeth seneddol fodern.

Rhagor o wybodaeth

Mae gan wefan Gorffennol Casnewydd (Newport Past) wybodaeth ddefnyddiol am Gasnewydd, yn enwedig ei hanes yn ystod y 19eg ganrif.

Mae gan Lyfrgell Gyfeirio ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd adnoddau am ddatblygiad a hanes Casnewydd.