Beth mae Cymreictod yn ei olygu i chi?
Beth mae byw yng Nghasnewydd, a Chymru, yn ei olygu i chi? Beth ydych chi'n hoffi am y pethau hyn?
Mae gan bob un ohonom syniadau ynghylch beth mae’n ei olygu i fod yn Gymry, ac rydym am glywed eich rhai chi!
Rydym yn chwilio am drigolion i rannu eu barn gyda ni ar fywyd yn y ddinas a syniadau modern o Gymreictod, wrth i ni ddathlu ein dinas amrywiol.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhannu eu meddyliau ar y cwestiynau uchod anfon e-bost atom yn [email protected], ynghyd â llun ohonoch ac unrhyw un yn eich teulu sydd am ymuno*. Byddwn yn rhannu'r cyflwyniadau gorau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, felly cysylltwch â ni os ydych chi’n hapus i ni rannu eich stori.
Rydyn ni i gyd yn profi bywyd yn wahanol, ond mae digon sy'n ein cysylltu hefyd. Os ydych chi'n teimlo'r un peth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
*Rydym o ddifri ynghylch diogelu data. Am y rheswm hwn, ni ddylech anfon unrhyw luniau atom a allai gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol, fel eich cyfeiriad, nad ydych am iddi gael ei rhannu ar lwyfan cyhoeddus fel ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Er enghraifft, dyma beth mae Cymreictod yn ei olygu i Emmy:
Symudais i Gymru ym 1999 i briodi Les, yr oeddwn wedi cwrdd ag e 3 blynedd ynghynt yn Ffrainc. Roedd y ddau ohonom yn dramorwyr 'Waelisc': Roedd Les yn hannu o Loegr, a finnau o'r Iseldiroedd.
Y peth rwy'n ei hoffi fwyaf am Gasnewydd yw ei phobl: maen nhw'n gyfeillgar, â’u traed ar y ddaear, gydag amrywiaeth gyfoethog o ddiwylliannau, ieithoedd, doethineb, ffyrdd o fyw, cerddoriaeth a bwyd. Maent yn rhannu ymagwedd greadigol, ysbrydoledig a 'gallu gwneud', ac er eu bod yn cwyno am wendidau Casnewydd, maent yn fwy na galluog i 'wynebu’r her' pan fo angen.
Y peth rwy'n ei hoffi fwyaf am Gymru yw ei byd natur. Mynyddoedd, rhaeadrau, afonydd a llynnoedd, arfordir: rydym wedi’n difetha o ran dewis! Mae'n fy helpu i ymwreiddio, ac mae'n ffynhonnell wych o hwyl.
Rwyf hefyd wrth fy modd gyda'r bobl sy'n fy nerbyn am bwy ydw i ac yn neilltuo amser i gael sgwrs. I mi, mae Cymreictod yn rhoi ymdeimlad o gysylltiad, o gymuned ac o berthyn ar lefel ysbrydol/emosiynol, a bod ar yr un donfedd â'r hunanhyder a'r harddwch sy'n dod gydag ef.