Denodd dociau Casnewydd, a’r diwydiant dur, bobl o bedwar ban byd, gan greu poblogaeth ethnig amrywiol.
Daeth pobl o wledydd fel Iwerddon, Somalia a Bangladesh draw i fyw a gweithio, ac ymgartrefodd llawer ohonynt yng Nghasnewydd.
Hyd heddiw, mae Casnewydd yn denu pobl o ystod eang o wledydd, rai ohonynt yma am gyfnod byr, rhai’n hirach.
COVID-19: 'no recourse to public funds' information
Ceiswyr lloches a ffoaduriaid
Ariennir Partneriaeth Mudo Strategol Cymru ar gyfer Ceiswyr Lloches, Ffoaduriaid a Mudwyr (PMSC) GAN Y Swyddfa Gartref i ddarparu corff cynghori ac ymgynghori ar fudo yng Nghymru.
Mae PMSC yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu polisïau a mentrau annibynnol yn ymwneud â cheiswyr lloches, ffoaduriaid a mudwyr yng Nghymru.
Mae rhagor a wybodaeth a manylion cyswllt ar wefan PMSC.
Trosolwg syml o’r broses loches gyfreithiol (pdf)
Ceiswyr lloches ac ysgolion
Masnachu pobl a Chaethwasiaeth gyfoes
Gweithwyr mudol
Yn ôl diffiniad Uwch Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UGCHFf), mae gweithiwr mudol yn:
‘person sydd i’w gyflogi, yn cael ei gyflogi neu wedi ei gyflogi mewn gweithgaredd â thâl mewn Gwladwriaeth nad yw ef neu hi yn wladolyn ohoni.’
Nid yw gweithwyr mudol yn cynnwys ffoaduriaid na cheiswyr lloches
Yr hyn sy’n gwahaniaethu gweithwyr mudol o wledydd Ewropeaidd a gwledydd nad ydyn nhw’n rhai Ewropeaidd yw’r weithdrefn a ddefnyddiwyd i ddod i’r DU i weithio.
Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) Mae gan ddinasyddion gwledydd sy’n aelodau o’r AEE, ynghyd â dinasyddion y Swistir hawl i fyw a gweithio yn unrhyw wlad sy’n rhan o’r AEE a’r Swistir (adwaenir fel yr ‘hawl preswylio’) os gallant eu cynnal eu hunain heb fod yn faich afresymol ar gyllid cyhoeddus.
Yn ogystal â’r Deyrnas Unedig, gweddill gwledydd yr AEE yw Yr Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, Yr Eidal, Estonia, Y Ffindir, Ffrainc, Gibraltar, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad Pŵyl, Gwlad yr Iâ, Hwngari, Yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Lichtenstein, Lithwania, Lwcsembwg, Malta, Norway, Portiwgal, Romania, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Sweden, y Weriniaeth Tsiec.
Rhaid i ddinasyddion Romania a Bwlgaria gael caniatâd i ddod i mewn a gweithio yn y DU cyn cyrraedd, oni bai eu bod yn hunan-gyflogedig/yn sefydlu eu busnes eu hunain.
System bwyntiau
Yn 2008, cyflwynodd y llywodraeth system bwyntiau i reoleiddio mewnfudo i’r DU o’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).
Rhaid i fudwyr basio asesiad pwyntiau cyn cael caniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yma.
Darllen mwy am feini prawf gweithwyr mudo ar wefan Asiantaeth Ffiniau y DU .
Iechyd a thai
Gall gweithwyr mudol o wledydd sy’n aelodau o’r EEA (a’r Swistir) sy’n byw yng Nghasnewydd gael mynediad at wasanaethau iechyd a thai drwy’r un broses â thrigolion eraill Casnewydd.
Nid oes gan weithwyr mudol o wledydd nad ydynt yn rhai Ewropeaidd Hawl i Gyllid Cyhoeddus sy’n golygu bod yn rhaid iddynt dalu am wasanaethau iechyd a rhentu llety yn breifat neu brynu eiddo.
Cysylltu
Gofynnwch am y swyddog polisi mudo yng Nghyngor Dinas Casnewydd
Brexit
Os yw dinesydd yr UE am aros yn y DU, bydd angen iddo ef a’i deulu agos wneud cais i’r cynllun preswylio’n sefydlog.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o gymorth i helpu dinasyddion yr UE i baratoi ar gyfer Brexit a pharhau i fyw a gweithio yng Nghymru.
Mae tua 80,000 o ddinasyddion yr UE yn byw, gweithio ac astudio yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae llawer ohonynt heb wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog Llywodraeth y DU i aros yn y DU ar ôl Brexit.
Rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Dinas Casnewydd yn paratoi ar gyfer Brexit
Gwybodaeth am achosion ‘Windrush’
Mae Llywodraeth y DU wedi darparu gwybodaeth i ddinasyddion y Gymanwlad sy’n drigolion hirdymor yn y DU a heb ddogfennau brofi eu statws.
Darllenwch Guidance for undocumented Commonwealth citizens sy’n esbonio’r sefyllfa bresennol a’r hyn y gall unigolion ei wneud nesaf.
Gall unigolion hefyd gysylltu â thasglu penodol ar 0800 678 1925 neu drwy e-bost at [email protected].
Rhoddodd yr Ysgrifennydd Cartref ddatganiad ar 23 Ebrill 2018 a gadarnhaodd y gall unrhyw un o’r genhedlaeth Windrush ddod yn ddinesydd Prydeinig ac y bydd y Llywodraeth yn diystyru pob ffi ar gyfer ceisiadau am ddinasyddiaeth Brydeinig.
Lawrlwythwch ein hysbysiad preifatrwydd mudo (pdf)