Cyflogaeth a Hyfforddiant
Mae'r timau yn y canolfannau yn cynnig gwasanaeth cynghori yn y gymuned sy'n gweithio i gynyddu cyflogadwyedd pobl nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant ac sy'n wynebu rhwystrau cymhleth i gyflogaeth. Mae'r cymorth a roddir drwy nifer o fentrau cenedlaethol ar gyfer gwahanol grwpiau oedran yn cynnwys:
-
Mentora un i un;
-
Mynediad at ystod eang o gyfleoedd hyfforddi, profiad gwaith a gwirfoddoli;
-
Hyfforddiant ar gyfer cymwysterau penodol;
-
Sgiliau cyflogadwyedd - gan gynnwys diweddaru CV, ceisiadau am swyddi a pharatoi cyfweliadau;
-
Magu hyder;
-
Cymorth emosiynol;
-
Cymorth a chyngor gyda theithio, gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu;
-
Canllawiau a chymorth i gael mynediad i'r rhyngrwyd ar gyfer ceisiadau am swyddi ar-lein;
-
cyngor a chymorth ariannol;
-
Cymorth academaidd - gan gynnwys sgiliau astudio;
-
Cymorth ar gyfer llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol;
-
Sesiynau blasu ar gyfer dilyniant i ddysgu pellach.