Mae Hybiau Cymdogaeth Casnewydd yn cynnig mynediad rhwydd at wasanaethau hanfodol i breswylwyr mewn cymunedau lleol.
Oriau agor: 9am-4pm
Cymorth iechyd a lles yn eich hyb cymdogaeth
Mae sesiynau galw heibio i bobl sy'n chwilio am gyngor ar ddychwelyd i'r gwaith, dod o hyd i swydd well neu wella eu sgiliau ar gael yn hybiau cymdogaeth Casnewydd.
Fel rhan o brosiect rhanbarthol o'r enw CELT (Connect, Engage, Listen, Transform) bydd y sesiynau am ddim yn canolbwyntio ar gymorth iechyd, lles a chyflogaeth.
Mae'r timau yn yr hybiau yn galw'n arbennig ar rieni a gofalwyr sydd â phlant yn dechrau yn yr ysgol ym mis Medi ac efallai'n ystyried beth i'w wneud nesaf. Bydd cyngor a chymorth i wella eu rhagolygon cyflogaeth, eu sgiliau neu eu cymwysterau.
Bydd y sesiynau canlynol yn cael eu cynnal yn Hybiau Cymdogaeth y Canolbarth a'r Dwyrain:
- Coffi ac Ymlacio: Lle gall rhieni ddod draw am goffi, a byddwn yn edrych ar bwnc gwahanol bob wythnos (e.e. tai/iechyd meddwl/cyllid) gan orffen gyda dysgu am ymwybyddiaeth ofalgar.
- Teithiau Cerdded Lles (gan gysylltu â Thimau Datblygu Cymunedol): Ar agor i'r teulu cyfan gydag arhosiad posibl mewn parc. Dangos manteision bod yn yr awyr agored a bod yn egnïol.
- Archwiliwch eich Dyfodol:Edrych ar symud rhieni yn nes at gyflogaeth/uwchsgilio. Bydd hon yn rhaglen dreigl sy'n edrych ar Nodau/Rhwystrau, CV/Chwilio am Swyddi ac annog cyfranogwyr i ennill cymwysterau ac ymgysylltu â'n contractau cyflogaeth
- Cymorth mewn sesiynau grŵp neu 1:1
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Danielle ar 07837 394152 neu e-bostiwch [email protected]
Angen cyngor cyflogaeth? Gallwn ni helpu
Gallwn roi cymorth a chyngor os oes risg y caiff eich swydd ei dileu neu os yw eich swydd wedi’u dileu’n ddiweddar, os ydych ar ffyrlo, neu os ydych yn gweithio contractau dim oriau.
Cysylltwch â ni am fentora cyflogaeth, cymorth i ysgrifennu CV a cheisiadau am swyddi, cyrsiau am ddim sy'n gysylltiedig â chyflogaeth, cyngor ar sut i gael cymorth ariannol e.e. ar gyfer dillad cyfweliad, teithio i gyrsiau hyfforddi a chyfweliadau, mynediad digidol a chymorth, gofal plant a banciau bwyd.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch radffon 08081 963482 neu e-bostiwch eich Hyb lleol isod.
Teuluoedd yn Gyntaf
Ewch i Teuluoedd yn Gyntaf Casnewydd i ddarllen sut mae'r rhaglen hon gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn tlodi.
Lawrlwythwch Ffurflen hunanatgyfeirio Teuluoedd yn Gyntaf (Word).
Lawrlwythwch y Ffurflen atgyfeirio Teuluoedd yn Gyntaf i'w defnyddio gan weithwyr proffesiynol (Word)
Gall gwasanaethau eraill a gynigir gan yr Hybiau gynnwys:
- Dechrau'n Deg - grwpiau ar gyfer babanod, plant bach a chymorth rhieni
- cymorth rhianta ar-lein am ddim i bob preswylydd – defnyddiwch y cod mynediad SWSOL
- clybiau chwarae ac ieuenctid i blant a phobl ifanc
- dosbarthiadau a chyfleoedd i oedolion ymgymryd â dysgu achrededig ac achlysurol
- gwasanaethau a digwyddiadau llyfrgell
- cymorth i bobl ifanc 11-25 oed
- gweithgareddau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae yn ystod gwyliau'r ysgol
- dosbarthiadau Cymraeg
- cymorth Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill
- ailddosbarthu bwyd cost isel o ansawdd i bobl mewn angen
- projectau cymunedol, e.e. casglu sbwriel, hyrwyddwyr iechyd cymunedol, projectau tyfu cymunedol
- Gweithgareddau iechyd a ffitrwydd
- Ailgylchu - casglwch eich bagiau gwastraff bwyd gwyrdd o'ch Hyb lleol
Hyb Eich Cymdogaeth
Yr Hyb Canolog
Pill Millennium Centre, Courtybella Terrace, Newport, NP20 2GH
E-bost: [email protected]
Yn gwasanaethu Pillgwenlli, Victoria, Stow Hill, Allt-yr-ynn.
Hyb y Dwyrain
282 Ringland Circle, Casnewydd NP19 9PS (hen ganolfan gymunedol Ringland)
E-bost: [email protected]
Yn gwasanaethu Ringland, Alway, Somerton, Llyswyry, Beechwood, Sain Silian, Langstone, Lanwern
Hyb y Gogledd
Bettws Community Centre, 43 The Precinct, Bettws NP20 7TN
E-bost: [email protected]
Yn gwasanaethu Betws, Malpas, Shaftesbury, Chaerllion.
Hyb y Gorllewin
Canolfan Gymunedol Maesglas, Bideford Road, Casnewydd, NP20 3XT
E-bost: [email protected]
Yn gwasanaethu Tredegar Park, y Gaer, Tŷ-Du, Graig, Maerun