Academi Ieuenctid Casnewydd
Wedi’i leoli yn Hyb y Dwyrain, mae Academi Ieuenctid Casnewydd yn ddarpariaeth ysbrydoledig sy'n newid bywydau pobl ifanc Casnewydd rhwng 16 a 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Mae'r academi yn un o ddarparwyr hyfforddiant mwyaf Casnewydd gyda dros chwe blynedd o brofiad yn darparu hyfforddiant i bobl ifanc ac yn eu cefnogi i gyflogaeth ac addysg uwch/addysg bellach.
Dysgwch fwy am Academi Ieuenctid Casnewydd.
Mae gwasanaethau, gwybodaeth a chymorth eraill i bobl ifanc yn y ddinas yn cynnwys:
Canllawiau i bobl ifanc
Cynhyrchwyd y canllawiau hyn i roi gwybodaeth a chyngor i helpu pobl ifanc i fyw'n annibynnol.
Arian (pdf)
Dodrefnu eich cartref (pdf)
Cadw'n ddiogel (pdf)
Cyflogaeth (pdf)
Cymorth Addysg (pdf)
Budd-dal plant (pdf)
Siopa bwyd (pdf)
Adnoddau:
- Ymweld â thudalennau gwe'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am gyngor ar ofal plant a rhianta.
- AGENDA: Mae canllaw i bobl ifanc ar wneud perthnasoedd cadarnhaol yn bwysig yn helpu pobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o anghydraddoldebau rhwng y rhywiau, aflonyddu rhywiol a thrais mewn ysgolion a chymunedau.
Clybiau ieuenctid
Mae clybiau ieuenctid Casnewydd yn rhedeg ar draws y ddinas. Nodir y lleoliadau, yr amseroedd a'r manylion cyswllt isod:
|
Lleoliad
|
Cyswllt
|
Dydd Llun
|
|
|
Clwb Ieuenctid Betws, 4pm-8pm
|
Clwb y Gwasanaeth Sifil
|
07976 634071
|
Clwb Ieuenctid Pillgwenlli, 6pm-8pm
|
YMCA Pillgwenlli
|
07814 495674
|
Anabledd, 5pm-8pm (atgyfeiriad yn unig)
|
Serennu
|
07969 901963
|
Dydd Mawrth
|
|
|
Clwb Ieuenctid Alway, 5.30pm-7.30pm
|
Canolfan Gymunedol Alway
|
07772 119043
|
|
|
|
Dydd Mercher
|
|
|
Clwb Ieuenctid Rivermead, 4pm-8pm
|
Canolfan Rivermead
|
07870 235552
|
Clwb Ieuenctid Underwood, 4pm-8pm
|
Canolfan Gymunedol Bishton
|
07970 756383
|
Clwb Ieuenctid Pillgwenlli, 5pm-9pm
|
Canolfan Mileniwm Cymru
|
07977 926426
|
|
|
|
Dydd Iau
|
|
|
Clwb Ieuenctid Maindee, 6pm-8pm
|
Tŷ Cymunedol
|
07967486440
|
Anabledd, 5pm-8pm (atgyfeiriad yn unig)
|
Serennu
|
(01633) 748000
|
Clwb Ieuenctid Ringland, 5pm-7pm
|
Canolfan Gymunedol Ringland
|
07969 901963
|
Clwb Ieuenctid Llyswyry, 7pm-9pm
|
Canolfan Gymunedol Rhostir
|
07814 495674
|
|
|
|
Dydd Sadwrn
|
|
|
Prosiect NP20, 12.30pm-2.30pm
|
Theatr Glan yr Afon
|
07977 926426
|
Cyngor Ieuenctid Casnewydd
Mae Cyngor Ieuenctid Casnewydd yn grŵp o bobl rhwng 11 a 25 oed, sy'n cynrychioli barn a safbwyntiau pobl ifanc.
Gyda chefnogaeth ac arweiniad gan Gyngor Dinas Casnewydd maent yn sicrhau bod gan bobl ifanc lais a chymorth i lunio dyfodol y ddinas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwneir hyn yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a dyletswydd yr awdurdod lleol i ymgysylltu â phobl ifanc.
Ymunwch!
Os hoffech ddod yn aelod, cwblhewch y ffurflen manylion personol.
Ar ôl ei chwblhau anfonwch hi i [email protected] a bydd rhywun yn ymateb cyn gynted â phosibl!
Gwobr Dug Caeredin
Mae rhaglen Dug Caeredin yn agored i unrhyw un rhwng 14 a 24 oed a hoffai ddysgu sgil newydd, gwirfoddoli, ymgymryd â gweithgaredd corfforol a chwblhau alldaith.
Cwblhewch lefel efydd, arian neu aur a chyflawnwch wobr drwy gwblhau rhaglen bersonol o weithgareddau mewn pedair adran, neu bump os ydych yn mynd am aur.
Ar hyd y ffordd byddwch yn casglu profiadau, ffrindiau a thalentau a fydd yn aros gyda chi weddill eich oes.
Mae rhaglen Dug Caeredin yn cael ei rhedeg yn ysgolion uwchradd Casnewydd, clybiau ieuenctid, Coleg Gwent a'r Share Centre, Stow Hill.
Mae lefel efydd yn cymryd chwe mis i chwblhau, mae arian yn cymryd blwyddyn i’w chwblau ac aur yn cymryd 18 mis.
E-bostiwch [email protected] neu ewch i wefan Gwobr Dug Caeredin am fwy o wybodaeth.