Browser does not support script.
Gwefan newydd yn cael ei datblygu
Read more >
Dweud eich dweud ar bwy sy’n cael arian o’n rhaglen gyllidebu gyfranogol.
Byddwn yn cynnal chwe digwyddiad penderfynu lle gallwch benderfynu pa brosiectau a grwpiau cymunedol sydd bwysicaf i chi.
Bydd prosiectau a grwpiau yn derbyn cyllid o’r rhaglen yn seiliedig ar eich pleidleisiau yn y digwyddiadau.
Cynhelir chwe digwyddiad dros dri diwrnod: dau ar gyfer prosiectau mwy a phedwar ar gyfer prosiectau llai. Mae gwybodaeth am ba brosiectau sydd ar gael ar gyfer cyllid ym mha ddigwyddiad, a dolenni ar gyfer sut i gofrestru ar gyfer pob digwyddiad, i'w gweld isod.
Digwyddiad Prosiectau Mwy 1 – Dydd Sul 27 Chwefror – 11am
Cliciwch i weld y rhestr o brosiectau sy’n ceisio cyllid yn y digwyddiad hwn.
Cofrestrwch i fynd i'r digwyddiad hwn.
Digwyddiad Prosiectau Mwy 2 – Dydd Sul 27 Chwefror – 3pm
Cliciwch i weld y rhestr o brosiectau sy’n ceisio cyllid yn y digwyddiad hwn
Digwyddiad Prosiectau Llai 1 – Dydd Sadwrn 5 Mawrth – 11am
Digwyddiad Prosiectau Llai 2 – Dydd Sadwrn 5 Mawrth – 3pm
Digwyddiad Prosiectau Llai 3 – Dydd Sul 6 Mawrth – 11am
Digwyddiad Prosiectau Llai 4 – Dydd Sul 6 Mawrth – 3pm
ER MWYN BOD YN GYMWYS I BLEIDLEISIO - RHAID I CHI FOD YN BYW YNG NGHASNEWYDD A RHAID I CHI FOD DROS 11 oed (rhaid i blant dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol).
Gan y bydd ein digwyddiadau’n cael eu cynnal ar Zoom eto eleni, byddwn yn cynnal sesiynau i helpu’r rhai na allant fynd ar-lein i gymryd rhan.
Cynhelir sesiynau yn Llyfrgell Ringland ac adeilad Canol Dinas Prifysgol De Cymru ar:
Cynhelir y digwyddiadau rhwng 11am ac 1pm, a rhwng 3pm a 5pm ar y tri diwrnod.
I gofrestru eich diddordeb mewn mynychu un o’r sesiynau, cysylltwch ni ar 01633 414720 neu [email protected], gan roi gwybod i ni pa leoliad a dyddiad sydd o ddiddordeb i chi.