Ffynonellau cyllid eraill
Cronfa Datblygu Digidol
Nod Cronfa Datblygu Digidol Llywodraeth Cymru yw cynorthwyo diwydiannau creadigol i fanteisio ar farchnadoedd busnes newydd trwy dechnolegau digidol sy'n dod i'r amlwg.
Allforio
Mae llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig yn cynnig cymorthdaliadau ar gyfer mynychu eu teithiau masnach dramor ac ar gyfer ymweliadau datblygu busnes wedi'u cymeradwyo â marchnadoedd tramor.
Ewch i Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Ffactoreiddio a disgowntio
Gall busnesau godi arian trwy werthu eu hanfonebau heb eu talu (cyfrifon sy'n ddyledus i'r busnes), neu eu defnyddio fel sicrwydd cyfochrog.
Ewch i Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth.