Cwynion am fwyd
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gyfrifol am wneud yn siwr bod bwyd sy'n cael ei werthu yng Nghasnewydd yn ddiogel i'w fwyta.
Mae'n rhaid i unrhyw safle sy'n cadw, yn paratoi, yn cynhyrchu, yn coginio neu'n gwerthu bwyd gydymffurfio â chyfraith diogelwch bwyd.
Os nad ydych chi'n hapus ag unrhyw fwyd neu ddiod a brynwyd gennych, dylech, yn y lle cyntaf, gysylltu â'r siop, y gwneuthurwr neu'r cyflenwr lle y prynoch chi'r nwyddau.
Mae tîm diogelwch bwyd y cyngor yn delio â phroblemau bwyd sy'n peri risg i iechyd y cyhoedd yn unig, er enghraifft:
-
bwyd sy'n anaddas i'w fwyta, e.e. cig sy'n pydru
-
bwyd sydd wedi'i halogi, e.e. llwydni sylweddol ar gaws
-
unrhyw eitem sy'n cael ei ddarganfod yn y bwyd, na ddylai fod yno
Pan fyddwch yn cwyno am fwyd, GWNEWCH y canlynol...
-
Sicrhau eich bod wedi darllen y label a'ch bod yn gyfarwydd â'r dyddiadau 'ar ei orau cyn' / 'defnyddio erbyn' a'r cyfarwyddiadau defnyddio
-
Cadw derbynebau
-
Cadw pecyn neu gynhwysydd y bwyd
-
Cadw'r bwyd yn yr oergell neu'r rhewgell, yn enwedig os yw'ch cwyn yn ymwneud â phydru neu flas ac arogl troi ar y bwyd
-
Sicrhau bod digon o fwyd yn weddill i'w samplu fel y gall profion gael eu cynnal os bydd angen
Pan fyddwch yn cwyno am fwyd, PEIDIWCH â gwneud y canlynol...
- Tynnu unrhyw eitem allan o'r bwyd - gadewch yr eitem yn ei lle
- Rhoi'r eitem yn eich ceg na llyfu'r bwyd gerllaw'r eitem - gallai hyn effeithio ar unrhyw brofion angenrheidiol
- Gadael i'r bwyd bydru ymhellach - cadwch y bwyd yn yr oergell neu'r rhewgell
- Taflu dim o'r bwyd
Cwynion am fusnesau bwyd
Os oes gennych bryderon am arferion trafod bwyd neu safonau glendid mewn unrhyw fusnes bwyd yng Nghasnewydd, dylech anfon y manylion trwy neges e-bost at [email protected] neu gysylltu â thîm diogelwch bwyd iechyd yr amgylchedd Cyngor Dinas Casnewydd.