Rheoli diogelwch bwyd
Mae Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP) yn system sy'n helpu pobl sy'n rhedeg busnesau bwyd i edrych ar eu ffordd o drafod bwyd ac sy'n awgrymu gweithdrefnau i wneud yn siwr bod y bwyd a gynhyrchir yn ddiogel i'w fwyta.
Cewch gyngor ar reoli diogelwch bwyd ar gyfer eich busnes ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Dylid adolygu system rheoli bwyd bob blwyddyn a phryd bynnag byddwch chi'n gwneud newidiadau i'ch busnes, er enghraifft i'ch bwydlen neu'ch offer.
Bwyd mwy diogel, busnes gwell
Mae pecyn Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell wedi'i lunio gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd i helpu bwytai, caffis, busnesau bwyd parod a busnesau arlwyo bychain eraill i gydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd.
Gall busnesau gadw a chwblhau cofnodion ar gyfrifiadur, neu eu hargraffu a'u cwblhau.