Tatwio a thyllu cosmetig

Rhaid i unrhyw un sy'n cynnig tatwio, tyllu cosmetig, aciwbigo, electrolysis neu liwio led-barhaol yng Nghasnewydd fod wedi ei gofrestru gyda Chyngor Dinas Casnewyd

2024 Ffi
[a] Tyllu clustiau, aciwbigo, electrolysis a Tatŵio - Cofrestru Ffi (£)  
Mangre 123.47 fesul cofrestriad
Ymarferwyr 123.47

fesul cofrestriad
Tystysgrifau amnewid 30.87 fesul tystysgrif
Ychwanegu gweithdrefn newydd i'r dystysgrif bresennol 61.73 fesul tystysgrif
Adeiladau dros dro ar gyfer digwyddiad cyhoeddus 85.44 fesul cofrestriad
Ymarferwyr dros dro ar gyfer digwyddiad cyhoeddus 42.44 fesul cofrestriad
Newydd!

Gweithdrefnau arbennig – cynllun trwyddedu newydd erbyn Ebrill 2020

Os ydych chi'n gweithio o eiddo, rhaid iddo hefyd fod wedi ei gofrestru, mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.

O 2024, y tâl am gais personol neu eiddo yw £123.47

Y ffi i ychwanegu gweithdrefn at gofrestriad presennol yw £61.73

Gwneud cais i gofrestru person neu eiddo

Arolygir safleoedd cofrestredig i sicrhau eu bod yn ddiogel a glân, gyda’r risg leiaf o haint. 

Tyllu personol – cyfraith newydd o 1 Chwefror 2018

Bellach mae'n anghyfreithlon perfformio tyllu personol (gan gynnwys y tafod, y fron neu’r organau cenhedlu) ar unrhyw un dan 18 oed yng Nghymru. 

Darllenwch fwy am Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Eiddo anghofrestredig, ‘crafwyr’ a chwynion 

Mae ymarferwyr tatwio anghyfreithlon, anghofrestredig - a elwir hefyd yn 'grafwyr' - a safleoedd anghofrestredig yn peri risg gynyddol i gleientiaid ddatblygu adwaith alergaidd, creithiau a heintiau megis HIV a hepatitis, a gallant arwain at heintiau croen difrifol sydd angen triniaeth feddygol.

Rhowch wybod am unrhyw bryderon ynghylch ymarferwyr tatwio anghyfreithlon neu eiddo anghofrestredig i [email protected] neu ffoniwch 01633 656656