Mae angen trwydded arnoch i gadw rhai anifeiliaid sy'n cael eu hystyried yn wyllt, yn beryglus neu'n egsotig, er enghraifft:
- cathod gwyllt
- primatiaid
- cŵn gwyllt, e.e. bleiddiaid
- rhai moch, e.e. baedd gwyllt
- bolgodogion
Gellir gweld y rhestr lawn o anifeiliaid y mae angen trwydded arnynt yn yr atodlen i Orchymyn Diwygio Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 2007.
Efallai y bydd angen trwydded gydag anifeiliaid hybrid neu groesfrid, yn dibynnu ar ba mor bell y mae'r anifail wedi dod oddi wrth ei hynafiaid gwyllt.
Os nad ydych chi'n siŵr, holwch - e-bostiwch [email protected]
Mae trwydded anifail gwyllt peryglus yn ddilys am uchafswm o ddwy flynedd.
Mae ffi yn daladwy, gweler y ffioedd trwydded iechyd anifeiliaid cyfredol.
Amodau
Caiff yr eiddo ei archwilio gan swyddog awdurdodedig a milfeddyg arbenigol i sicrhau bod amodau'r drwydded wedi'u bodloni.
Codir tâl am unrhyw ffioedd milfeddygol ar yr ymgeisydd.
Bydd y milfeddyg yn adrodd am unrhyw faterion i'r cyngor a gellir ychwanegu'r rhain fel amodau ychwanegol i'r drwydded.
Os yw'r arolygydd yn ystyried bod gweithdrefnau a safleoedd yr ymgeisydd yn addas, rhoddir y drwydded.
Rhaid arddangos copi o'r drwydded mewn man amlwg yn yr adeilad.
Byddwch yn ymwybodol o ddeddfwriaeth arall fel Deddf Lles Anifeiliaid 2006, os nad ydych yn bodloni'r gofynion cyfreithiol hyn, efallai na chewch eich trwyddedu.
Cysylltwch â ni cyn er mwyn i ni allu siarad drwy'r gofynion ac anfon atoch yr holl amodau y bydd angen i chi eu bodloni.
Darllenwch fwy ar wefan Gov.UK.
Cyswllt
Am gyngor, cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y tîm Safonau Masnach.