Mae safleoedd carafanau a gwersylla yng Nghasnewydd angen trwydded gan y cyngor i sicrhau bod y safle'n cael ei redeg mewn ffordd briodol a diogel.
Cyn gwneud cais am drwydded, mae angen i chi sicrhau bod gan eich safle ganiatâd cynllunio.
Unwaith y cafwyd caniatâd cynllunio, rhaid i'r meddiannydd tir wneud cais am drwydded safle ar gyfer naill ai safle preswyl neu ddibreswyl.
Darllenwch am y gwahanol fathau o safleoedd carafán neu wersylla
Weithiau nid oes angen trwydded:
Eithriadau safle cartrefi symudol a charafánau
- os yw gweithwyr fel rhai coedwigaeth neu weithwyr tymhorol yn aros ar y safle
- os yw'r safle yn bum erw neu fwy a bod tair neu lai o garafanau yno am 28 diwrnod neu lai o flwyddyn
- os ydych chi'n aelod o sefydliad a bod gennych dystysgrif eithrio carafanau, neu os yw eich safle'n cael ei gymeradwyo gan sefydliad sydd â thystysgrif eithrio carafanau
Gwnewch gais am drwydded eithrio parc carafanau
Eithriadau safleoedd gwersylla
- os oes defnydd achlysurol o'r safle o fewn ffin tŷ annedd
- os oes gan y safle gymeradwyaeth gan rai sefydliadau, e.e. clwb carafanau
- os yw'n safle adeiladu neu beirianneg, neu'n cael ei ddefnyddio gan sioeau teithiol neu ei feddiannu gan yr awdurdod lleol
Gwnewch gais am drwydded safle gwersylla
Rhaid i barciau carafanau trwyddedig gydymffurfio ag amodau sy'n ymwneud â’r:
- math o garafán - preswyl, statig gwyliau, teithio, pabell
- dwysedd y safle
- gofod rhwng y lleiniau a’r nifer uchaf o leiniau
- cyfleusterau megis toiledau, cawodydd, cyfleusterau golchi
- dŵr yfed
- trefniadau gwaredu gwastraff gan gynnwys gwaredu dŵr a chemegol
- glanweithdra
- gosodiadau diogelwch tân a gosodiadau trydanol
- trefniadau parcio
Gweler yr amodau trwydded safle pebyll (pdf)
Ffioedd
Ffioedd trwyddedu safle cartref symudol
|
|
Trwydded safle - uchafswm o 2 lain
|
Dim tâl
|
Trwydded safle - bach (3-10 carafan)
|
£869.48
|
Trwydded safle - canolig (11-49 carafán)
|
£970.79
|
Trwydded safle - safle mawr (50+ carafan)
|
£1159.11
|
Amrywio'r drwydded
|
£78.99
|
Amrywiad sydd angen arolygiad
|
£204.92
|
Ffi i adneuo rheolau safle
|
£65.83
|
Trwydded newydd
|
£19.46
|
Tâl hysbysiad cosb sefydlog
|
£109.33
|
Ffioedd trwyddedu safleoedd gwersylla
|
|
Trwydded safle gwersylla
|
£869.48
|
Arolygiad
Os oes gennych drwydded, cewch ymweliad arolygu blynyddol gan swyddogion y cyngor a fydd yn archwilio tystysgrifau a chofnodion cynnal a chadw.
Yn ystod yr arolygiad, bydd nifer yr unedau, strwythurau, pellteroedd gwahanu, blociau toiled, mannau storio LPG a pharcio yn cael eu harchwilio.
Dirwyon a chosbau
Efallai y cewch ddirwy o hyd at £2,500 os nad ydych â thrwydded, neu’n torri unrhyw un o'ch amodau trwydded.
Gweler y safleoedd carafán trwyddedig yng Nghasnewydd
Cwynion
Dylid anfon cwynion am barc carafanau at [email protected], gallwch hefyd wneud cwyn ar-lein
Rhagofalon tân
Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005; Mae'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (RRO) yn berthnasol i safleoedd carafanau a gwersylla.
Gorfodir yr RRO gan yr awdurdod tân ac achub lleol.
Gellir dynodi rhagofalon tân fel amodau trwydded o dan yr RRO yn dibynnu ar ba safle sydd gennych.
Am ragor o wybodaeth am y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Deddfwriaeth ategol