Trwydded amgylcheddol
Pe gallai eich busnes effeithio ar yr amgylchedd trwy lygredd aer, tir neu ddŵr, yna bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd amgylcheddol i Gyngor Dinas Casnewydd.
Ewch i Gov.UK i wirio os ydych angen trwydded
Ffioedd a thaliadau
Llywodraeth Cymru sy'n pennu ffioedd trwydded amgylcheddol
Gwerthusiad cais
Rhaid i awdurdodau lleol ystyried yr amserlen darged (pdf) wrth ystyried cais am drwydded.
Nid yw cydsyniad mud yn berthnasol, oherwydd ei fod er budd y cyhoedd bod cais yn cael ei brosesu cyn y gellir ei ganiatáu.
Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r cyngor.
Cofrestr Gyhoeddus
Mae'n ofynnol i ni gynnal cofrestr gyhoeddus gyda gwybodaeth am yr holl osodiadau LA-IPPC a LAPPC ac offer symudol yr ydym yn gyfrifol amdanynt.
Gweler Cofrestr Gyhoeddus Cyngor Dinas Casnewydd (pdf)
Am ragor o fanylion am drwyddedau penodol, e-bostiwch [email protected]
Cyswllt
Cysylltwch â thîm iechyd yr amgylchedd yng Nghyngor Dinas Casnewydd