Trwydded caffi palmant
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cefnogi ac yn annog darparu caffis palmant yn y ddinas gan y gallant helpu i wneud y defnydd gorau posibl o fannau cyhoeddus, cynorthwyo'r economi leol ac ychwanegu at y cyfleusterau a gynigir i bobl sy'n ymweld, yn byw a gweithio yng Nghasnewydd.
Rhaid i gaffis palmant gael eu lleoli'n briodol a'u rheoli i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau a ddisgwylir yng Nghasnewydd ac nad ydynt yn creu perygl i gerddwyr.
Rhoddir caniatâd i ddefnyddio'r briffordd gyhoeddus ar gyfer caffi palmant trwy'r trwyddedau gan y cyngor dan Adran 115E Deddf Priffyrdd 1980.
Darllenwch y Polisi Trwyddedu Caffi Palmant (pdf) sy'n nodi'r amodau a fydd ynghlwm wrth y drwydded os caniateir.
Ffioedd 2024/2025
Ffi gwneud cais = £175.50
Ffioedd trwydded palmant |
Nifer o fyrddau a chadeiraiu |
Ffi flynyddol* |
Gallu o dan 35 pobl |
£64.50 |
Gallu 36 i 95 pobl |
£99.50 |
Gallu 95 i 155 pobl |
£175.50 |
155+ pobl |
£216.50 |
Os yw'r Adeilad yn dymuno gweithredu “man ysmygu” neu ardal giwio. |
£58.50 ychwanegol |
Newid enw ar y drwydded neu gopi dyblyg |
£29 |
*Bydd y ffi hon yn amodol ar adolygiad blynyddol a gall gynyddu
Pan dderbynnir cais dilys, mae'n ofynnol i ni hysbysebu ceisiadau am drwyddedau caffi palmant am ddim llai na 28 diwrnod trwy bostio hysbysiadau yn ardal y caffi palmant arfaethedig, o dan delerau Deddf Priffyrdd 1980.
Os na cheir unrhyw wrthwynebiadau, rhoddir y drwydded o fewn pum niwrnod gwaith.
Os ceir gwrthwynebiad, bydd gofyn i'r rheolwr gwasanaeth dirprwyedig benderfynu ar y cais o fewn 20 diwrnod gwaith.
Gall byrddau a chadeiriau a osodir ar y briffordd heb ganiatâd ffurfio rhwystr anghyfreithlon a byddwn yn cymryd camau gorfodi angenrheidiol.