Gorsfaoedd prawf cymeradwy
Bydd y gorsafoedd prawf tacsis Casnewydd isod yn cymryd archebion o'r dyddiadau a ddangosir:
Auto Refinishing - archebion o 16 Ebrill 2018
Uned 2, Stad Ddiwydiannol Usk Way, Usk Way, Casnewydd NP20 2HZ
Ffôn: (01633) 256737
AJ Garage Servicing - archebion o 27 Mawrth 2023
Uned 26, Star Trading Estate, Ponthir, Casnewydd NP18 1PQ
Ffôn: 01633 431305
Gwe - www.ajgarageservices.com
Advance Autocare – archebion o 23 Hydref 2023
Uned 3-5, 61 Stafford Road, Casnewydd, NP19 7DR
Telephone (01633) 252552
Platinum Autocentre – archebion o 23 Hydref 2023
Uned 4, Trostrey Street, Casnewydd, NP19 7BB
Ffôn: (01633) 661678
Gwe - www.platinumautocentre.com
Os ydych yn dymuno gwneud cais fel Gorsaf Brofi Gofrestredig Cyngor Dinas Casnewydd, mae angen i chi sicrhau’r canlynol:
- Mae o fewn ffiniau Cyngor Dinas Casnewydd
- Mae'r garej wedi'i chofrestru fel gorsaf brofi MOT am o leiaf 1 flwyddyn.
- Mae gan y garej “sgôr gwyrdd” (graddfa risg isel) o dan Asesiad Risg y DVSA ar gyfer canolfannau profi MOT.
- Nad yw unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr na phrofwr cerbyd (MOT) sy'n ymwneud â'r busnes yn berchennog, yn yrrwr nac yn weithredwr Cerbyd Hacni neu gerbyd Hurio Preifat.
- Darparu mannau parcio addas a digonol oddi ar y ffordd i gerbydau prawf aros.
- Cynnal lefel foddhaol o lanweithdra a chadw tŷ a darparu ystafell aros briodol i yrwyr.
- Gallu prosesu ffioedd prawf ar ffurf arian parod a thaliad â cherdyn.
- Cael system archebu ar-lein addas
- Bod ag Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus digonol a dilys• Cael asesiad risg digonol a chyfredol ar gyfer yr eiddo sy'n cydymffurfio'n llawn â gofynion Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974 ac unrhyw Offerynnau Statudol cysylltiedig.
- Y bydd pob aelod o staff a gyflogir gan yr orsaf brofi yn gallu cydymffurfio â'r holl safonau gofynnol a osodwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at yr Adran Drwyddedu yn [email protected]