Tystysgrif pont bwyso
Pont bwyso - tystysgrif cymhwysedd
Fel arfer mae pont bwyso gyhoeddus yn eiddo i fusnes preifat sydd wedi penderfynu ei gwneud ar gael ar gyfer pwyso unrhyw eitem - cerbydau fel arfer - am ffi.
Rhaid rhoi prawf ar staff pont bwyso er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gweithredu'r bont yn gymwys ac yn ôl y gofynion cyfreithiol, sef:
- pwyso pan ofynnir iddynt (oni bai bod rheswm da i beidio gwneud)
- pwyso'n deg.
- darparu datganiad ysgrifenedig o'r pwysau i'r person sydd wedi gofyn am y pwyso
Yna rhaid i weithredwr y bont bwyso gadw cofnod o bob pwyso am 2 flynedd, a rhaid iddo gynnwys:
- dyddiad ac amser y pwyso
- enw a chyfeiriad y person a wnaeth y cais
- manylion i adnabod y cerbyd, e.e. rhif cofrestru
- y math o lwyth ar y cerbyd.
Lleoliad pont bwyso gyhoeddus
Mae’r unig bont bwyso gyhoeddus yng Nghasnewydd yn Island Steel UK Ltd, Alexandra Docks, Casnewydd NP20 2UW
Ymwelwch â gwefan Island Steel UK neu ffoniwch (01633) 211133.
Gwnewch gais
I gofrestru pont bwyso cyhoeddus e-bostiwch [email protected] i wneud cais am dystysgrif cymhwysedd.
Bydd staff pontydd pwyso'n cael eu profi a chodir tâl.
Rhaid i'r cais gynnwys eich enw, y cyfeiriad a'r math o bont bwyso, a faint o staff fydd yn gweithredu'r bont bwyso.