Mae prisiau tir a rhenti swyddfeydd a safleoedd diwydiannol Casnewydd yn gystadleuol iawn o ystyried lleoliad y ddinas ar goridor yr M4.
Mae'r rhenti uchaf yng Nghasnewydd ar gyfer lleoedd swyddfa a diwydiannol yn is na'r rhenti cyfartalog ar gyfer Caerdydd, Bryste a Llundain.
Mae gan y ddinas amrywiaeth eang o safleoedd ac adeiladau, gan gynnwys parciau busnes a gwyddoniaeth, ystadau diwydiannol a safleoedd eraill, ar gael i'w datblygu.
Mae datblygiadau newydd yn digwydd gerllaw'r M4 ac yng nghanol y ddinas fel rhan o gynllun adfywio'r ddinas.
Prif barciau a safleoedd busnes Casnewydd
Gweithgynhyrchu, diwydiannol
Mae'r rhain yn amrywio o unedau hybu bach i barciau diwydiannol modern tybiannol a warysau diwydiannol mawr, gan gynnwys hen safle LG Electronics yn Imperial Park a hen adeilad New Venture Carpets ar Ystâd Ddiwydiannol Reevesland.
Warysau, dosbarthu
Mae unedau ar Ystâd Ddiwydiannol Reevesland, Queensway Meadows, Ystâd Ddiwydiannol Leeway a hen safle LG Electronics yn cynnig amrywiaeth o unedau ar gyfer warysau/dosbarthu.
Bwriedir cynnwys unedau newydd ar hen safle gwaith dur Llanwern.
Pencadlysoedd, swyddfeydd rhanbarthol
Mae Usk House, gerllaw canol y ddinas, yn cael ei farchnata fel lle ar gyfer pencadlys, gyda 10,477 o droedfeddi sgwâr yn weddill i'w gosod, ond gall y gofod hwn gael ei rannu.
Swyddfeydd cefn, canolfannau galwadau, canolfannau gweinyddol
Mae nifer o ganolfannau galwadau wedi'u lleoli yn Celtic Springs a Cleppa Park, gyda hyd at 35,000 o droedfeddi sgwâr o le ar gael yn adeilad CS 3000, ac mae unedau llai ar gael hefyd sydd rhwng 2,773 a 7,000 o droedfeddi sgwâr, oll ym Mharc Busnes Celtic Springs.
Mae unedau llai sydd rhwng 1,600 a 4,808 o droedfeddi sgwâr ar gael yn Cleppa Park.
Swyddfeydd â gwasanaeth
Mae swyddfeydd â gwasanaeth, o ansawdd uchel, ar gael ym Merlin House ar Barc Busnes Langstone, oddi ar Gyffordd 24 traffordd yr M4, ac yn Devon Place, sydd yng nghanol y ddinas gerllaw'r orsaf drenau.
Mae'r ddau le yn cynnig rhith-ofod swyddfa.
Rhent blynyddol: mae'r pris ar gael adeg gwneud cais.
Defnydd diwydiannol ysgafn
Mae amrywiaeth eang o unedau ar draws y ddinas, gan gynnwys unedau'r cyngor i fusnesau newydd a pharciau diwydiannol newydd, fel Estuary Court a Phoenix Park.
Mae parciau diwydiannol sefydledig yn cynnwys Queensway Meadows, Ystâd Ddiwydiannol Leeway, Ystâd Ddiwydiannol Maesglas ac Ystâd Ddiwydiannol y Wern.
Parciau busnes
Mae parciau busnes modern Casnewydd, gan gynnwys Parc Busnes Celtic Springs oddi ar Gyffordd 28 traffordd yr M4 a Pharc Busnes Langstone oddi ar Gyffordd 24, yn cynnig amrywiaeth o le swyddfa ac maen nhw wedi denu buddsoddiad mewnol sylweddol dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae parc busnes newydd, sef Parc Business Celtic, ar gael erbyn hyn ar hen safle gwaith dur Llanwern.
Ymchwil a datblygu, arloesi, parciau gwyddoniaeth
Adeiladwyd Imperial House ac Imperial Courtyard fel parc ymchwil a datblygu gwyddonol.
Er bod rhai o'r cyfyngiadau ar y math o feddiannaeth wedi'u codi, mae'r lleoliad yn parhau i fod yn ganolbwynt ar gyfer busnesau ymchwil a datblygu yng Nghasnewydd.
Mae unedau'n amrywio o 600 o droedfeddi sgwâr yn Imperial House i 5,000 o droedfeddi sgwâr yn Imperial Courtyard.
Tir, safleoedd maes glas
Mae amrywiaeth o safleoedd tir llwyd a maes glas ar gael sy'n addas i ddefnyddiau amrywiol.
Adwerthu
Mae canolfannau adwerthu y tu allan i'r dref ar gael ym Mharc Adwerthu Casnewydd, Maesglas a'r Harlequin.
Yng nghanol y dref, sef Friars Walk. Mae'r ardal siopa yng nghanol y dref yn cynnwys Canolfan Kingsway, sydd eisoes wedi'i hadnewyddu.
Mae unedau modern ar gael.
Prydlesi hyblyg
Mae amrywiaeth o brydlesi ar gael erbyn hyn, gan gynnwys prydlesi hawdd dechrau a hawdd terfynu, tymor byr a thymor hir.
Cais i Chwilio am Eiddo
Gallwch chwilio am eiddo yng Nghasnewydd eich hun yma:
I gael cyngor neu os oes gennych ymholiadau am eiddo yng nghanol y ddinas, cysylltwch â: [email protected]
Cysylltu
Am ragor o wybodaeth:
Anfonwch e-bost at [email protected], neu ffoniwch (01633) 656656.