COVID 19: We are temporarily waiving the ‘paid for advice fees’ for food businesses at this uncertain time. If you are:
- Changing the way you provide food
- Changing what food you provide
- Offering takeaways for the first time
- Commencing deliveries
- Offering new online ordering services
- Offering food to the elderly or vulnerable, or
- Providing cook-chill style meals for the first time
We can support you by helping to ensure that these new foods are made safely and described correctly.
Please email [email protected] for allergens, standards and labelling queries, and [email protected] for food hygiene and safety matters.
Mae tîm safonau masnach Cyngor Dinas Casnewydd yn darparu gwybodaeth a chyngor i fusnesau yng Nghasnewydd i'w helpu i gydymffurfio â'r gyfraith.
Cynigia Cyngor Dinas Casnewydd gyngor ar reoliadau diogelwch bwyd, iechyd a diogelwch yn y gwaith, llygredd a thrwyddedu.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, nod y cynllun tagio teiars yw helpu i leihau tipio anghyfreithlon yng Nghasnewydd.
Gofynnir i garejys sy'n ymuno â'r cynllun nodi eu teiars gyda chod cyfeirio unigryw fel y gellir eu holrhain yn ôl i'r cwmni/unigolyn a'u casglodd, os caiff y teiars hyn eu gwaredu’n anghyfreithlon.
Gwerthiant dan oed
Mae'r tîm safonau masnach yn gweithio gyda sefydliadau partner i leihau cyflenwad cynhyrchion sy'n cael eu cyfyngu gan oedran, megis alcohol, tybaco, toddyddion a thân gwyllt i bobl dan oed.
Cynhelir gweithrediadau prynu prawf rheolaidd i ganfod manwerthwyr sy'n gwerthu i bobl dan oed, gyda’r posibilrwydd o weithredu llys.
Os oes gennych wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm safonau masnach.
Mwy o wybodaeth
Mae gan y Sefydliad Safonau Masnach daflenni gwybodaeth busnes.
Darpara tudalennau busnes Gov.UK gymorth a chyngor ymarferol i fusnesau, gan gynnwys gwybodaeth Masnach Deg.
Sicrha’r Awdurdod Safonau Hysbysebu nad yw marchnata ac hysbysebu yn torri'r rheolau.