Cynllun Manwerthwyr Cyfrifol
Mae'r cyngor yn gyfrifol am orfodi ystod eang o ddeddfwriaeth diogelu defnyddwyr gan gynnwys gwerthiannau cynhyrchion sy'n gyfyngedig o ran oedran, fel tybaco, alcohol, cyllyll a thân gwyllt.
Mae'r Cynllun Manwerthwyr Cyfrifol yn helpu manwerthwyr annibynnol lleol i fasnachu'n deg ac yn gyfrifol.
Bydd Swyddogion Safonau Masnach yn helpu i amddiffyn manwerthwyr rhag materion deddfwriaeth diogelu defnyddwyr y gallant eu hwynebu, drwy ddarparu cymorth a chyngor.
Dod yn fanwerthwr cyfrifol
Fel aelod o fanwerthwyr cyfrifol bydd busnesau'n ymrwymo i wneud popeth o fewn eu gallu i atal gwerthu cynhyrchion sy'n gyfyngedig o ran oedran.
Am ffi flynyddol o £150 (gostyngiad i £75 yn y flwyddyn gyntaf) bydd aelodau’r cynllun yn derbyn:
- Pecyn diwydrwydd dyladwy cynhwysfawr
- Hyfforddiant ar y safle i staff
- Adroddiad archwilio ar y safle
- Profion pryniannau - wedi’u cynnal gan Safonau Masnach ar ran yr aelod-fusnes.
- Hyder gan y cwsmer eu bod yn prynu gan fanwerthwr sydd wedi ymddwyn yn gyfrifol gyda diogelwch y cyhoedd mewn golwg.
Cyswllt:
E-bost [email protected] neu ffoniwch 01633 656656 a gofynnwch am y tîm Safonau Masnach