Mae Croeso i chi Fwydo ar y Ffron
Mae'r cynllun Mae Croeso i chi Fwydo ar y Fron yn annog sefydliadau sydd â safleoedd sydd ar agor i'r cyhoedd yng Nghasnewydd i gefnogi bwydo ar y fron trwy fod yn groesawgar, yn gyfeillgar ac yn gefnogol.
Os bydd adeilad yn arddangos y logo hwn, mae'n dangos bod y sefydliad wedi cymryd rhan mewn sesiwn ymwybyddiaeth bwydo ar y fron a'i fod wedi ymroi i fod yn safle sy'n croesawu bwydo ar y fron.
Bydd lleoedd sydd wedi cytuno i fod yn rhan o gynllun Mae Croeso i chi Fwydo ar y Fron yn cael eu rhestru yma.
You will find a Breastfeeding Welcome at these locations:
- Horton's Café, Millennium Walk
- Monusk Deli, Millennium Walk
- Parc Pantry, Malpas
- Tearooms at Bellevue Park
- Tiny Rebel in Rogerstone
- The Riverfront Theatre and Arts Centre
- Tredegar House
- Vittorios Restaurant
- Civic Centre
Cysylltu
Rydym yn croesawu adborth ac awgrymiadau gan unigolion a sefydliadau, yn enwedig os hoffai eich sefydliad chi gefnogi'r cynllun hwn.
Anfonwch e-bost at [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y swyddog iechyd a lles.
Mae'r cynllun, Mae Croeso i chi Fwydo ar y Fron yn cael ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Dinas Casnewydd, fel rhan o bartneriaeth Casnewydd yn un.