Atal
Nod y Tîm Atal yw gwella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Rydym yn cydnabod bod angen cymorth wedi'i deilwra ar deuluoedd yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, megis problemau sydd angen cymorth dwysach neu gymorth i oresgyn problemau llai cyn iddynt waethygu.
Y Gwasanaeth
Mae gan y tîm Weithwyr Cymorth i Deuluoedd Atal o fewn cymunedau ledled Casnewydd. Yn dilyn asesiad o anghenion unigol, rydym yn darparu pecynnau cymorth hyblyg i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Mae'r cymorth y gallwn ei gynnig yn cynnwys cymorth a chyngor ar:
- Rianta
- Rheoli cartrefi
- Rheoli dicter/ymddygiad heriol
- Dymuniadau, teimladau a hunan-barch
- Presenoldeb yn yr ysgol
- Symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd
- Perthnasoedd iach
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau lefel isel
Beth gallwch ei ddisgwyl
Cynhelir cyfarfodydd dyrannu wythnosol ac, unwaith y dyrennir yr atgyfeiriad, bydd gweithiwr cymorth i deuluoedd yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad cyfleus i drafod eich anghenion, gan edrych ar y cryfderau a'r adnoddau sydd gennych chi a'ch teulu eisoes.
Gyda'n gilydd byddwn yn llunio cynllun cymorth ar gyfer eich teulu, gan weithio'n hyblyg, ac yn darparu gwasanaeth sy'n cyd-fynd â'ch anghenion a'ch ymrwymiadau.
Llenwch ffurflen atgyfeirio a'i dychwelyd i [email protected] a bydd y tîm mewn cysylltiad.
Lawrlwythwch Ffurflen hunanatgyfeirio Teuluoedd yn Gyntaf (doc)
Lawrlwythwch Ffurflen atgyfeirio gweithiwr proffesiynol Teuluoedd yn Gyntaf (doc)
Gweler yr hysbysiad preifatrwydd (pdf)