Cynlluniau a chlybiau chwarae

Play scheme

Mae cynlluniau chwarae yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau hanner tymor mis Chwefror a mis Hydref, dros y Pasg ac am bedair wythnos yn ystod gwyliau'r haf. 

Nod cynlluniau chwarae yw cynnig cyfleoedd chwarae creadigol a llawn hwyl, wedi'u rhedeg gan weithwyr chwarae, ar gyfer plant 5 i 12 oed mewn amgylchedd diogel ac ysgogol.

Os oes gan eich plentyn unrhyw ofynion penodol, trafodwch hyn gyda'r tîm datblygu chwarae isod.

Mae cynlluniau chwarae yn cael eu harwain gan y plentyn ac maent yn rhoi'r cyfle i blant reoli eu chwarae a herio'u hunain i gymryd risgiau emosiynol a chorfforol mewn amgylchedd diogel ac ysgogol.

Dylai rhieni a gofalwyr lenwi ffurflen gofrestru ar ymweliad cyntaf y plentyn â'r cylch chwarae a bydd angen cofrestru yn flynyddol. 

Mae sawl math o gynllun chwarae:

  • AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) - wedi cofrestru gydag AGC i ddarparu chwarae i blant rhwng 5 a 12 oed rhwng 10am a 3pm. Mae uchafswm o leoedd ar gael sy'n cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.

  • Sesiynol - sesiwn dwy awr ar y mwyaf a gyflwynir mewn cymunedau lleol ar gyfer plant 5 i 12 oed

  • Allgymorth - sesiwn ddwy awr ar y mwyaf a gyflwynir yn yr awyr agored mewn mannau agored mewn cymunedau lleol ym mhob math o dywydd 

  • Cynllun chwarae arbenigol - yn rhedeg yn ystod gwyliau'r haf i blant 5 i 18 oed sydd ag anghenion gofal cymhleth wrth gael eu hatgyfeirio gan athro, meddyg teulu, therapydd galwedigaethol, gweithiwr cymdeithasol ac ati.Hwyl yn ystod gwyliau'r ysgol

Clybiau Chwarae

blant reoli eu chwarae a herio eu hunain i gymryd risgiau emosiynol a chorfforol mewn amgylchedd diogel.

Cynhelir sesiynau llawn hwyl ar draws Casnewydd ar gyfer plant 5-12 oed.

Archebwch sesiwn clybiau chwarae ar-lein

 

Darpariaeth Amser Tymor
Dydd Llun 16:00 – 17:00 Alway
Dydd Mercher 16:00 - 17:00 - Ringland
Dydd Mawrth

16:00 - 17:00 - Pill

16:00 - 17:00 - Underwood

Dydd Iau

16:00 - 17:00 - Bettws

16:00 - 17:00 - Maesglas

Am ragor o wybodaeth neu os oes angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn i fynychu clwb chwarae cysylltwch â ni drwy [email protected]

Clybiau Ieuenctid

Mae clybiau ieuenctid yn cael eu harwain gan blant ac yn rhoi cyfle i blant reoli eu chwarae a herio eu hunain i gymryd risgiau emosiynol a chorfforol mewn amgylchedd diogel. Cynhelir sesiynau llawn hwyl ar draws Casnewydd ar gyfer plant 10-16 oed.

Darganfod mwy o wybodaeth

Mynediad agored

Mae cynlluniau chwarae Cyngor Dinas Casnewydd yn rhai mynediad agored a gall plant ddewis pa weithgareddau chwarae maen nhw am eu gwneud, a gyda phwy maen nhw'n chwarae. 

Gall y plant gyrraedd ac ymadael â'r cynllun chwarae ar unrhyw adeg yn ystod yr oriau cyhoeddedig, ond gofynnir i rieni ddweud wrth eu plant i beidio â gadael y safle heb ddweud wrth weithiwr chwarae.

Nid yw Cyngor Dinas Casnewydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ofal, rheolaeth a goruchwyliaeth plant sy'n teithio i'r cynllun chwarae nac ar ôl iddynt ymadael â'r safle. 

Os bydd unrhyw blentyn eisiau gadael y cynllun chwarae yn ystod y dydd, rhaid i'r plentyn lofnodi i mewn ac allan a rhoi gwybod i weithiwr chwarae ei fod yn gadael. 

Datblygu chwarae Teuluoedd yn Gyntaf

Cynllun chwarae cymhleth

Mae’r cynllun chwarae cymhleth ar gyfer pobl 5-17 oed sydd ag anableddau difrifol a chymhleth.

Mae ar gyfer y rhai a allai ei chael hi'n anodd ymgysylltu ag eraill mewn chwarae a chyfathrebu cymdeithasol, a'r rhai a allai fod yn sensitif i fannau gorlawn a mannau lle gall pethau mympwyol ddigwydd.

Mae'r cynllun chwarae yn cynnig lefelau uchel o gefnogaeth gan staff profiadol a hyfforddedig, niferoedd isel o blant, ac ystod o fannau tawel diogel ac ardaloedd agored i redeg o gwmpas.

Sylwer:  Ni fydd y cynllun chwarae cymhleth yn cael ei gynnal yn ystod hanner tymor mis Hydref 2024 gan y byddwn yn cynnal sesiynau Chwarae i Deuluoedd yn lle. Bydd gwybodaeth am y sesiynau Chwarae i Deuluoedd yn cael ei hanfon yn uniongyrchol at ein teuluoedd, ysgolion anghenion arbennig a chanolfannau adnoddau dysgu.   

Bydd ceisiadau Chwarae Cymhleth yn hanner tymor Chwefror 2025 yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon maes o law.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth neu os oes angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn i fynychu clwb chwarae, anfonwch e-bost at [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y tîm datblygu chwarae.