Gwybodaeth hwylus, o safon sydd ar gael am ddim i rieni a gweithwyr gofal plant proffesiynol
Os ydych chi'n byw neu'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng eu genedigaeth ac 19 oed ac yn chwilio am ofal plant, gwybodaeth am addysg y blynyddoedd cynnar, gweithgareddau i'ch plant neu help i fagu plant, mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd yma i helpu.
Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnig 'siop un stop' trwy'r rhif 01633 210842 gyda gwasanaeth peiriant ateb a thrwy'r ffurflen ymholiadau ar-lein.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd yn rhoi gwybodaeth i deuluoedd sy'n byw neu sy'n gweithio yng Nghasnewydd, gan gynnwys:
Yn ogystal, mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd yn cynnig sesiynau briffio a rhaglen hyfforddi i bobl sydd eisiau gweithio gyda phlant neu sy'n gweithio gyda phlant ar hyn o bryd.
Cofrestru cyn geni a blynyddoedd cynnar
Mae tîm Blynyddoedd Cynnar Casnewydd yn cynnig ystod o wasanaethau i'r teulu cyfan. Eu nod yw rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.
Mae gwasanaethau’n cynnwys:
- rhaglenni, cyngor a chefnogaeth cynenedigol
- cymorth i deuluoedd a rhieni
- cymorth datblygu plant
Wedi i chi gwblhau ein ffurflen gofrestru, byddwn yn cysylltu â chi i gynnig cyngor a gwasanaethau perthnasol wrth i'ch plentyn dyfu.
Ffurflen gofrestru cynenedigol a'r blynyddoedd cynnar
Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant
Mae Deddf Gofal Plant 2006 yn ei gwneud yn glir mewn deddfwriaeth bwysigrwydd y rôl y dylai Awdurdodau Lleol ei chwarae wrth ddarparu gofal plant lleol. Mae'n atgyfnerthu'r angen i awdurdodau lleol barhau i weithio mewn partneriaeth â'r sectorau a gynhelir, annibynnol, preifat, gwirfoddol a chymunedol i lunio a sicrhau gwasanaethau plant.
Mae'r adroddiad hwn yn archwilio gwybodaeth ystadegol sy'n ymwneud â darparwyr gofal plant a chwarae preifat, cyhoeddus a gwirfoddol o fewn ffiniau Dinas Casnewydd.
Rhennir yr adroddiad yn wyth adran, y gallwch eu darllen isod.
Darllenwch ein Crynodeb Gweithredol o’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (pdf) sy’n rhoi trosolwg byr o’r adroddiad llawn.
Cysylltu
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd
Ffôn: 01633 210842
E-bost: [email protected]
Defnyddiwch ein ffurflen gyswllt.
Ewch i dudalen Casnewydd Ifanc i gael gwybodaeth am wasanaethau i bobl ifanc.
Cysylltu â Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd cyfagos:
Torfaen 0800 0196 3300
Caerdydd 0300 0133 133
Caerffili 01443 863232
Sir Fynwy 01633 644527.
Hysbysiad preifatrwydd - Gwasnaeth gwybodaeth i Deuluoedd (pdf)