Mae’r tîm Dechrau'n Deg yng Nghasnewydd wedi gweithio gyda rhieni i greu llyfr plant wedi’i leoli yng Nghasnewydd. Enw'r llyfr yw 'Chat with me' ac mae'n dilyn anturiaethau cyffrous Cas ar hyd a lled Casnewydd. Enw'r llyfr yw 'Chat with Me' gan nad yw'n ymwneud â darllen llyfr yn unig, ond manteisio ar bob cyfle i sgwrsio â'n plant. Bydd y wybodaeth ar y dudalen we hon yn eich helpu i gael y gorau o sgyrsiau gyda'ch plentyn. Mae therapyddion lleferydd ac iaith arbenigol wedi bod yn rhan annatod o ddatblygu'r llyfr hwn.