Mae cysylltwyr cymunedol yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau ar draws ardal Casnewydd i ddarparu gwybodaeth a chyngor am y cymorth sydd ar gael, eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau lleol a chwrdd â mwy o bobl yn eich cymuned.
E-bost: [email protected]
I gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf gan y cysylltwyr cymunedol, tanysgrifiwch i'n rhestr bostio isod i dderbyn ein e-gylchlythyr.
Gweld y cylchlythyr diweddaraf gan y cysylltwyr cymunedol.
Mae Dewis Cymru yn darparu gwybodaeth am wasanaethau yn eich ardal chi.
Cymorth i ofalwyr
Os ydych yn gofalu am rywun nad yw'n gallu ymdopi gartref heb gymorth, gall ein cysylltwyr cymunedol eich helpu i gael gwybod am wasanaethau a gweithgareddau cymorth lleol, darparu gwybodaeth am fudiadau gwirfoddol a'ch helpu i ail-gysylltu â'ch cymuned.
Darllenwch fwy am ein cymorth i ofalwyr.
Grwpiau Cyfeillgarwch
Mae’r Caffi Clonc yn ôl!
Ddydd Mercher cyntaf y mis dewch i Lan yr Afon rhwng 10am a 12pm i gael paned am ddim a sgwrs gyda'r cysylltwyr cymunedol.
Dysgwch am y gweithgareddau a’r grwpiau cymunedol sydd ar gael yn eich ardal ac efallai cwrdd â ffrindiau newydd!
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01633 235650.
Fforwm 50+ Casnewydd
Mae'r Fforwm yn rhoi llais i bobl dros 50 oed yng Nghasnewydd ac mae aelodau'n gwirfoddoli i helpu i wella ansawdd bywyd pobl hŷn drwy ddylanwadu ar y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio.
Mae aelodau yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd, iechyd, busnesau lleol a sefydliadau gwirfoddol.
Mae'r Fforwm yn bwyllgor o aelodau etholedig a gall unrhyw un ymuno am ddim.
Cynhelir cyfarfodydd cyhoeddus yn Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref o 2-4pm yn THE PLACE, Stryd y Bont tua diwedd y mis. Chwiliwch am y dyddiadau yn Grassroots in the Argus neu ar ein tudalen Facebook (chwiliwch am Fforwm Casnewydd 50+).
Mae croeso i bawb, dewch draw, mynnwch wybod, cymerwch ran a rhannwch eich barn!
Rydym yn hyrwyddo grwpiau cymdeithasol lleol, beth am ddweud wrthym am eich grŵp?
Cysylltu
Am ragor o wybodaeth e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656 a gofyn am y cysylltwyr cymunedol.