Mynegai a gwasanaeth gwybodaeth
O dan Ddeddf Plant 1989, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gadw cofrestr o blant anabl yn eu hardal.
Yng Nghasnewydd, yr enw ar y gofrestr hon yw'r Mynegai ac fe'i defnyddir i helpu i gynllunio gwasanaethau a rhoi gwybodaeth i rieni plant ag anabledd, hynny yw, unrhyw blentyn neu berson ifanc rhwng 0 ac 17 oed sydd angen cymorth ychwanegol gan wasanaethau, oherwydd:
- Anabledd dysgu
- Anabledd corfforol
- Byddardod neu nam ar y clyw
- Dallineb neu olwg rhannol
- Nam iaith neu leferydd
- Salwch difrifol, cronig neu salwch sy'n rhoi bywyd yn y fantol
- Anabledd arall
Gall plant a'u rhieni ddewis p'un ai i gael eu cynnwys yn y Mynegai neu beidio.
Nid yw'r Mynegai yn rhoi mynediad at fwy o wasanaethau ac nid yw'n cael ei ystyried yn atgyfeirio ar gyfer gwasanaethau.
Nid yw'n gysylltiedig ag unrhyw gofrestr arall ac mae gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n gyfrinachol.
Pam ychwanegu'ch plentyn at y Mynegai?
- Bydd eich plentyn yn cael cerdyn hamdden sy'n ei alluogi i wneud rhai gweithgareddau am ddim yng nghanolfannau hamdden Cyngor Casnewydd
- Byddwch yn helpu i gynllunio datblygiad gwasanaethau yn y dyfodol
- Byddwch yn cael cylchlythyr bob tri mis yn rhoi gwybod i chi am grwpiau a gwasanaethau newydd yng Nghasnewydd
- Cewch gyfle i gael eich holi am faterion sy'n effeithio arnoch chi
Cysylltu
Swyddog Gwybodaeth, Y Tîm Plant Anabl, Serennu, Cwrt Camlas, High Cross, Casnewydd
Ffôn: (01633) 656 656
E-bost: [email protected]