Gwybodaeth, cyngor a chymorth i oedolion gydag anableddau corfforol yng Nghasnewydd
Os ydych yn gwella o salwch, yn addasu i fywyd ag anabledd neu’n berson bregus, gall gwasanaeth therapi galwedigaethol Casnewydd eich helpu i adfer eich hyder a’ch annibyniaeth.
Gallwn wneud hyn drwy gynnig cyngor, trefnu cyfarpar arbennig neu wneud addasiadau i’ch cartref.
Gwybodaeth a chyngor
Holi SARA - adnodd ar-lein sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth arbenigol ar gynhyrchion i oedolion hŷn neu anabl neu i blant anabl.
Dewis Cymru- gwybodaeth iechyd, help a gwasanaethau lleol
Addasiadau a chyfarpar
Gall addasiadau, e.e. gosod rheiliau gafael, rampiau ac ati, eich galluogi i symud yn ddiogelach o amgylch eich cartref a’ch helpu i fyw’n fwy annibynnol.
Os yw eich cartref wedi ei rentu’n breifat, cysylltwch â Gofal a Thrwsio Casnewydd.
Os yw’ch cartref wedi’i rentu gan Gymdeithas Tai, cysylltwch â’ch landlord e.e. Cartrefi Dinas Casnewydd
Darllenwch y dudalen grantiau tai am ragor o wybodaeth.
Gallwch eich cynghori i ystyried prynu cyfarpar neu gall gael ei ddarparu drwy Taliadau Uniongyrchol.
Hyb Clyfar
Mae Hyb Clyfar y cyngor yn Llyfrgell Canolog Casnewydd yn dangos y dechnoleg gynorthwyol ddiwetharaf sydd ar gael a all gefnogi pobl i fyw yn ddiogel ac yn annibynnol gartref.
Mae'r dechnoleg sydd ar gael i'w gweld yn cynnwys y Komp, technoleg gynorthwyol sy'n dda i bobl hŷn sy'n galluogi pobl oedrannus i gysylltu â'r rhai sydd bwysicaf i'w hiechyd a'u lles.
Mae technolegau clyfar eraill sy'n cael eu harddangos yn cynnwys Amazon Alexa, clychau drysau Ring a systemau gwresogi Hive, yn ogystal â systemau teleofal ac amryw synwyryddion symudiadau neu gwympiadau.
Mae'r hyb hefyd yn fan lle bydd trigolion yn gallu siarad ag aelodau o dîm therapi galwedigaethol y cyngor a chael cyngor ynghylch defnyddio'r dechnoleg wahanol.
Lawrlwythwch Canllaw ar Cymhorthion a Thechnoleg Gynorthwyol (pdf)
Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol
Gallwn asesu eich anghenion yn ystod galwad ffôn a gallwn gynnig gwybodaeth a chyngor heb gyflawni unrhyw asesiad arbenigol.
Cyflawnir therapi galwedigaethol gan wahanol dimau yng Nghasnewydd gan gynnwys y tîm adnoddau cymunedol, sy’n helpu oedolion i aros yn annibynnol yn eu cartrefi a thîm therapi galwedigaethol integredig yr ysbyty, sy’n cynnig asesiadau arbenigol i oedolion sydd angen cymorth yn y tymor byr neu hir.
Byddwn yn eich cynghori ar ba dîm sydd orau i weithio gyda chi.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Rydym yn blaenoriaethu yr holl geisiadau yn ôl yr angen ac yn ôl pa mor frys yw’r risg, e.e. pobl sydd â salwch terfynol, na allant sefyll neu gyda chyflwr sy’n gwaethygu’n gyflym.
Byddwn yn ystyried ceisiadau eraill yn ôl trefn dyddiad oni bai y byddwch yn dweud wrthym ni bod newid yn eich amgylchiadau a all olygu byddwn yn eich gweld yn gynharach.
Byddwn yn eich ffonio i drefnu apwyntiad pan fyddwn yn gallu ymweld â chi.
Os nad oes modd siarad â chi dros y ffôn, byddwn yn anfon llythyr atoch yn gofyn i chi gysylltu â ni.
Os na chawn ymateb o fewn 14 diwrnod, caiff yr atgyfeiriad ei gau a bydd angen i chi gysylltu â ni eto pan fyddwch yn gallu gwneud hyn.
Os nad oes angen apwyntiad neu asesiad arnoch mwyach am unrhyw reswm, cysylltwch â ni ar (01633) 656656 i ganslo eich cais.
Gallwn drefnu asesiadau gartref neu mewn canolfannau gofal dydd.
Ar ôl i ni gwrdd â chi a gwneud asesiad, byddwn yn trafod pa ddewisiadau sydd ar gael i chi.
Gofynnwch am asesiad Therapi Galwedigaethol drwy ffonio Cyngor y Ddinas ar (01633) 656656, e-bostiwch [email protected] neu gofyn am gefnogaeth therapi galwedigaethol