Browser does not support script.
Gwefan newydd yn cael ei datblygu
Read more >
Mae bron i 2,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghasnewydd ac mae'n bwysig bod pobl sy'n byw gyda'r cyflwr yn gallu byw mor normal â phosibl gydag urddas a pharch.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cofrestru'n llwyddiannus i dderbyn Achrediad Cenedlaethol y Gymdeithas Alzheimer fel dinas sy'n gweithio tuag at fod yn ddinas sy'n ystyriol o ddementia.
Bydd partneriaeth a chynllun cyflawni ar y cyd, sef y Gynghrair Gweithredu ar Ddementia, yn codi ymwybyddiaeth o ddementia ymhlith sefydliadau a busnesau lleol trwy hyfforddiant a digwyddiadau gwybodaeth.
Mae dros 700 o bobl wedi mynychu sesiynau Ffrindiau Dementia yng Nghasnewydd i ddysgu sut beth yw byw gyda dementia a sut i helpu a throi'r ddealltwriaeth honno yn weithredu.
Gallwch adnabod ffrind dementia trwy fathodyn bach glas ar ffurf blodyn llygad y dydd sy'n cael ei gyflwyno ar ôl mynychu sesiwn.
Map Ffyrdd Dementia Cymru Mae'n darparu gwybodaeth am y daith dementia yn ogystal â gwybodaeth leol am wasanaethau, grwpiau cymorth a llwybrau gofal.
Deall dementia Symptomau sy’n gallu cynnwys colli’r cof, anawsterau o ran meddwl, datrys problemau neu iaith.
Poeni am eich cof I unrhyw un sy'n poeni am eu cof eu hunain, neu gof rhywun arall.
Byw'n dda gyda dementia Mae llawer o bobl yn hapusach os gallant aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Proses ddiagnostig Mae diagnosio dementia yn aml yn anodd, yn enwedig yn y camau cynnar.
Adnoddau i bobl sy'n byw gyda dementia.
Byw gyda dementia cyfnod cynnar (Age Cymru)
Gofalu am rywun â dementia (Age UK)
Cymorth a chyngor i bobl sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl a’u llesiant.
Cynllun Gweithredu Dementia Cymru 2018-2022
Protocol Herbert ar gyfer Pobl ar Goll sydd â Dementia cysylltu gofalwyr teuluol â'r asiantaethau perthnasol pe deuai adroddiad fod eu hanwyliaid ar goll.
Cymorth dros y ffôn drwy Cyswllt Dementia Cymdeithas Alzheimer.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd
Mae gwybodaeth ar gael ar wefan y Gymdeithas Alzheimer neu ffoniwch Linell Gymorth Genedlaethol Dementia ar 0300 222 1122