Mae gan gartrefi gofal staff wedi’u hyfforddi i ofalu am y trigolion ddydd a nos.
Mae gan gartrefi gofal preswyl staff sy’n gallu gofalu amdanoch yn yr un ffordd y gallai eich perthnasau neu ffrind ei wneud.
Mae gan gartrefi nyrsio nyrsyswedi’u hyfforddi i roi gofal nyrsio pan fyddwch ei angen.
Lawrlwythwch Ganllaw i Gartrefi Gofal yng Nghasnewydd (pdf)
Dewis cartref gofal
Weithiau gall pobl sydd angen symud i gartref gofal wneud eu trefniadau eu hunain.
Os oes angen y lefel yma o ofal arnoch, ac na fedrwch wneud eich trefniadau eich hunan, gallwn eich helpu.
Os ydych yn gadael yr ysbyty darllenwch Dewis Cartref Gofal (pdf) i’ch helpu i ddod o hyd i gartref gofal sy’n bodloni eich anghenion.
Darllenwch adroddiadau ar archwiliadau Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru o gartrefi preswyl
Asesu
Os ydych yn credu bod angen i chi symud i gartref gofal ond na allwch dalu’r ffioedd llawn eich hunan, cysylltwch â’n tîm gwasanaethau cymdeithasol isod.
Byddwn yn asesu eich anghenion, sef gofyn cwestiynau i chi amdanoch chi eich hun, beth sy’n achosi anhawster i chi, y pethau yr hoffwch fedru eu gwneud a pham yr ydych yn ystyried symud i gartref gofal.
Efallai y byddwch yn penderfynu yr hoffech barhau i fyw yn eich cartref presennol.
Os ydy’r asesiad yn dangos mai’r peth gorau yw i chi symud i gartref gofal, y cam nesaf fydd i ddod o hyd i gartref sy’n addas i chi.
Eich hawl i fyw lle y mynnoch!
Unwaith y mae wedi’i gytuno mai cartref gofal sydd ei angen arnoch chi, gallwch ddewis i symud i unrhyw gartref gofal cyhyd â bod:
- lle ar gael a’i fod yn addas i’ch anghenion gofal
- y cyngor, perchennog y cartref a chi’n gallu cytuno ar gontract
- y cartref y dymunwch ddim yn costio mwy na’r hyn mae’r cyngor yn ei ddisgwyl i dalu am y math o ofal sydd ei angen arnoch
Os nad oes lleoedd yn eich cartref o ddewis, gallwch ddewis i fyw rhywle arall nes bod lle ar gael.
Cysylltu
Cysylltwch â Gwasanaethau Cymdeithasol Casnewydd am ragor o wybodaeth.
TRA96029 14/01/2019