Mannau Diogel
Ffurflen gofrestru Lleoedd Diogel
Gall pobl agored i niwed sy’n teimlo ar goll neu wedi cynhyrfu bellach ddod o hyd i le diogel mewn nifer o adeiladau ledled Casnewydd sy’n arddangos sticer Mannau Diogel.
Bydd sefydliadau a busnesau sy’n cymryd rhan yn cefnogi pobl agored i niwed os oes angen cymorth arnynt drwy:
- cysylltu â pherson enwebedig
- cynnig cyngor
- ffonio 101 (os yw’n briodol)
Gall y rhai sy'n teimlo y byddent yn elwa o'r cynllun ofyn am gerdyn arbennig a fydd yn rhoi manylion pwy y gellir cysylltu ag ef os oes angen cymorth arnynt.
Mae Lleoedd Diogel yn gynllun cenedlaethol sydd yng Nghasnewydd yn cael ei reoli gan y tîm plant anabl ond sy’n agored i oedolion a phobl ifanc.
Bydd y tîm yn arddangos y sticer man diogel cenedlaethol i sicrhau bod unigolion yn gwybod bod hwn yn fan diogel cymeradwy.
Bydd y cynllun newydd yn cefnogi Protocol y Drindod a weithredir gan Heddlu Gwent. Mae hyn yn galluogi person ifanc neu aelod o'r teulu i gofnodi eu manylion fel y byddant yn deall y ffordd orau i'w cefnogi.
Mae holl orsafoedd heddlu Casnewydd a lleoliadau Casnewydd Fyw yn rhan o’r cynllun Lleoedd Diogel.
I wneud cais am gerdyn neu i holi am ddod yn rhan o’r cynllun, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01633 414745.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Mannau Diogel.