Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016.
Mae’r Ddeddf yn newid y ffordd yr eir ati i asesu anghenion pobl a’r ffordd yr eir ati i ddarparu gwasanaethau- bydd gan y bobl mwy o lais yn y gofal a’r cymorth y maen nhw’n ei dderbyn.
Y mae hefyd yn hyrwyddo’r amrywiaeth o gymorth sydd ar gael yn y gymuned i leihau’r angen am gymorth ffurfiol, wedi’i gynllunio.
- bydd gwasanaethau ar gael i ddarparu’r cymorth cywir ar yr adeg gywir
- bydd mwy o wybodaeth a chyngor ar gael
- bydd asesiadau yn symlach a chymesur
- bydd gan ofalwyr hawl cyfartal i dderbyn asesiad i gael cymorth
- bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn fwy diogel rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Fel y nodir yn Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (RPB) i reoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gweithio mewn partneriaeth.
Mae angen i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol hefyd sicrhau gwasanaethau effeithiol, a bod gofal a chymorth ar waith i ddiwallu anghenion eu poblogaeth briodol yn y ffordd orau.
Asesiad o Anghenion y Boblogaeth
Mae Rhan Dau, adran 14 y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn datgan bod rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gynnal asesiad ar y cyd i ganfod anghenion gofal a chymorth, a’r cymorth sydd ei angen ar ofalwyr yn ardaloedd yr awdurdodau lleol.
Mae’r gofal a chymorth yn ymwneud â phobl y gwyddys y gwasanaethau cymdeithasol amdanynt a’r rheini sy’n derbyn cymorth drwy wasanaethau ataliol.
Bydd yr asesiad o anghenion y boblogaeth yn cynnwys dwy ran:
- Asesu faint o bobl neu ofalwyr sydd angen gofal a chymorth ac i ba raddau y mae angen y fath gymorth.
- Asesu ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer anghenion gofal a chymorth y boblogaeth, eu gofalwyr, i atal anghenion penodol rhag codi a dwysau, a’r camau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.
Rhaid cyhoeddi asesiad cyntaf o anghenion y boblogaeth erbyn Ebrill 2017 a chyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf ym mis Ebrill 2022.
Cynllun Ardal Ranbarthol
Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd baratoi a chyhoeddi cynllun sy'n nodi ystod a lefel y gwasanaethau y maent yn bwriadu eu darparu, neu drefnu eu darparu, mewn ymateb i asesiad o anghenion y boblogaeth.
Rhaid i gynlluniau ardal gynnwys y gwasanaethau penodol a gynllunnir mewn ymateb i bob thema graidd a nodwyd yn yr asesiad o'r boblogaeth.
Fel rhan o hyn, mae'n rhaid i gynlluniau ardal gynnwys:
- y camau gweithredu y bydd partneriaid yn eu cymryd mewn perthynas â'r meysydd integreiddio sydd o flaenoriaeth i Fyrddau Partneriaeth Ranbarthol
- achosion a manylion cronfeydd cyfun fydd yn cael eu sefydlu mewn ymateb i'r asesiad o'r boblogaeth
- sut y caiff gwasanaethau eu caffael neu sut trefnir eu darparu, gan gynnwys modelau cyflenwi eraill
- manylion y gwasanaethau ataliol fydd yn cael eu darparu neu eu trefnu
- camau sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth
- y camau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg
Cyhoeddwyd y cynllun ardal cyntaf ym mis Ebrill 2018 gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn sicrhau cysylltiadau rhwng y Cynllun Ardal a Chynlluniau Llesiant yr awdurdodau lleol sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i hwyluso cydweithio ac osgoi dyblygu.
Y manteision a ddisgwylir yw mwy o gyfleoedd ar gyfer gweithio rhanbarthol, comisiynu ar y cyd a gwneud y gorau o adnoddau.
Dogfennau Cysylltiedig
I gael copi o unrhyw un o’r dogfennau a restrir isod ewch i https://www.gwentrpb.wales/
- Crynodeb PNA
- Asesiad Anghenion Poblogaeth Gwent
- Cynllun Ardal Llesiant
- Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Cysylltwch
I gael rhagor o wybodaeth neu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol e-bostiwch [email protected] neu ewch i’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol a restrir isod:
Facebook - Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Trydar - @BwrddGwent
Youtube - Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent