Browser does not support script.
Gwefan newydd yn cael ei datblygu
Read more >
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn dilyn ac yn gweithredu arfer gorau fel y cynghorir gan y llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf gan Llyw.Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Mae ein canolfan gyswllt ar agor ar gyfer galwadau o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm, mae'r Orsaf Wybodaeth ar gau hyd nes y rhoddir gwybod yn wahanol.
Defnyddiwch ein ffurflenni ar-lein i adrodd neu ofyn am wasanaethau'r Cyngor.
Gwnewch ymholiad cyffredinol am COVID-19 ar-lein neu e-bostiwch [email protected]
Darllenwch y canllawiau cyfredol.
Mae COVID-19 wedi newid ein bywydau mewn sawl ffordd, sy’n golygu bod unrhyw gymorth bach ychwanegol yn bwysicach nag erioed.
Mae llawer o bobl heb ddeall y gallent fod â hawl i gael budd-daliadau a allai gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt. Darganfod mwy.
Gallech gael taliad os ydych wedi cael eich cynghori i hunanynysu i helpu gyda cholli enillion.
Darllenwch a gwneud cais am y taliad hunanynysu COVID-19 yma.
Gallwch ddod o hyd i gyngor ar bwy sy’n gymwys i gael prawf a sut i gael prawf ar wefan Llyw.Cymru.
Mae rhaglen frechu COVID-19 wedi cychwyn yng Nghymru. Bydd brechlyn diogel ac effeithiol yn cynnig diogelwch unigol rhag COVID-19, yn ogystal â rhagor o ddiogelwch i’n hanwyliaid a’n cymunedau.
Dysgwch fwy
Mae ein nodau adfer strategol yn nodi sut y byddwn yn parhau i adeiladu Casnewydd well drwy ddiogelu bywydau, cefnogi ein cymunedau a'r rhai sy'n agored i niwed, lleihau anghydraddoldeb, ac ailadeiladu ein heconomi.
Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Profi, Olrhain, Diogelu Covid-19 (pdf)