Ymgynghoriadau ar agor
Polisi Derbyn i Ysgolion 2025-26
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 16 Chwefror 2024
Rydym yn ymgynghori ar drefniadau derbyn i ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Mae'r trefniadau yn nodi:
- yr amserlen ar gyfer gwneud ceisiadau am leoedd mewn ysgolion
- Y meini prawf ar gyfer sut mae lleoedd wedi'u dyrannu.
Nid oes unrhyw newidiadau polisi yn cael eu cynnig yn yr ymgynghoriad hwn.
E-bostiwch eich sylwadau i [email protected] erbyn 5pm ar y dyddiad cau.
Gwelwch y ddogfen ymgynghori. (pdf)
Dweud eich dweud ar welliannau i reilffyrdd yng Nghasnewydd
Mae Trafnidiaeth Cymru yn ceisio barn ar gynigion ar gyfer pum gorsaf reilffordd newydd yn ne-ddwyrain Cymru a gwasanaethau rheilffordd trawsffiniol newydd.
Mae'r cynigion yn cynnwys tair gorsaf reilffordd newydd ar gyfer Casnewydd gan gynnwys Llanwern, Somerton a gorsaf Gorllewin Casnewydd, wedi'i lleoli yn Dyffryn.
Gall trigolion weld rhagor o wybodaeth am y cynlluniau, a rhannu eu barn, ar wefan Trafnidiaeth Cymru. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 15 Ionawr 2024.
trc.cymru/ddc-gorsafoedd-newydd
Gwella parciau a chwarae
Nod y Tîm Parciau yw gwella ardaloedd chwarae yng Nghasnewydd. Mae'r prosiect wedi sicrhau cyllid o ymgynghoriadau cyllideb 2022 i uwchraddio ardaloedd chwarae er mwyn rhoi mannau diogel a hwyliog i blant chwarae. Mae'r prosiect yn cael ei gynnal gyda mewnbwn y gymuned, gan sicrhau bod anghenion a dewisiadau teuluoedd lleol yn cael eu hystyried yn y broses ddylunio drwy ymgynghoriadau lluosog.
Gweld yr ymgynghoriadau presennol
Ymgynghoriadau diweddar
Cyllideb flynyddol 2024/25
Dyddiad cau: 9 Chwefror 2024
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ystyried ei gyllideb ac wedi nodi nifer o gynigion ar gyfer darparu gwasanaethau yn 2024/25.
Mae'r cynigion yn cynnwys cynnydd o 8.5 y cant yn y dreth gyngor a fyddai, ar gyfer y rhan fwyaf o gartrefi Casnewydd, yn golygu cynnydd o rhwng £1.50 a £2.01 yr wythnos.
Mae meysydd buddsoddi ychwanegol yn cynnwys gofal cymdeithasol, darpariaeth i'r digartref ac ysgolion.
Mae'r galw am ofal cymdeithasol i oedolion a phlant yn parhau i gynyddu, felly cynigir £3 miliwn i helpu i reoli'r galw hwnnw a darparu cefnogaeth i rai o'n preswylwyr mwyaf agored i niwed.
Yn yr un modd, mae digartrefedd a'r galw am lety dros dro yn parhau i gynyddu, felly cynigiwyd £600,000 ychwanegol i gefnogi'r gwasanaeth.
Mae'r gyllideb hefyd yn cydnabod y pwysau sydd ar ysgolion ac wedi blaenoriaethu cyllid sylweddol ar gyfer cyflogau staff, y galw cynyddol o ganlyniad i gynnydd yn nifer y disgyblion, ac ar gyfer cymorth i'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd yr holl sylwadau a wneir drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu hystyried cyn cyfarfod y cabinet ym mis Chwefror pan fyddant yn gwneud eu hargymhellion terfynol ar y gyllideb gyffredinol ar gyfer 2024/25.
Darllenwch yr adroddiad chrynodeb o arbedion a buddsoddiadau llawn (Eitem 4)
Darllenwch yr asesiad tegwch, cydraddoldeb ac effaith ar gyfer y cynigion
Cynllun Trwyddedu Ychwanegol Tai Amlfeddiannaeth
Dyddiad cau’r ymgynghoriad: 6 Chwefror 2024
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn adolygu ei gynllun Trwyddedu Ychwanegol Tai Amlfeddiannaeth i weld a ddylid ei ymestyn am bum mlynedd o fis Mehefin 2024.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y cynllun Trwyddedu Ychwanegol Tŷ Amlfeddiannaeth, cwblhewch ein harolwg ar-lein.
Gweler y ddogfen ymgynghori sydd. (pdf)
Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Dyddiad cau: 28 Ionawr 2024
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau teg i bob preswylydd. Mae hyn yn golygu
trin pawb yn deg, gan ystyried anghenion trigolion o bob cefndir. Ein gweledigaeth yw creu Casnewydd sy’n fwy cyfartal hyd yn oed wrth wynebu heriau cynyddol.
Rydym yn ymgynghori ar ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2024-2028 a fydd yn adeiladu ar y gwaith a wnaed o dan ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024.
Hoffem wybod a ydych yn cytuno â'n hamcanion arfaethedig ac a oes unrhyw beth arall y credwch y dylem ei gynnwys.
Byddwn yn defnyddio eich adborth i helpu i ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028, i'w gyhoeddi ym mis Ebrill 2024.
Ymgynhoriad Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi
Dyddiad cau yr ymgynhoriad: Dydd Llun 18 Rhagfyr
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal ymarfer ymgynghori ynghylch codi premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn y ddinas.
Ar hyn o bryd mae gan y ddinas lefelau uchel iawn o ddigartrefedd ac mae llawer iawn o gyllid y Cyngor yn ymroddedig i ddarparu llety brys byrdymor. Byddai Llywodraeth Cymru yn caniatau i'r Cyngor gadw’r arian a godir o'r premiymau hyn.
Ar hyn o bryd mae yna mwy na 800 o eiddo yn y ddinas sydd wedi bod yn wag am fwy na 12 mis.
Cynllun Datblygu Lleol Newydd – Y Strategaeth a Ffefrir (Cynllun Cyn-Adneuo)
25 Hydref 2023 – 20 Rhagfyr 2023
Fel rhan o'r gwaith sy'n mynd rhagddo i baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLIN), rydym yn awry n gofyn eich adborth ar y Strategaeth a Ffefrir arfaethedig (Cynllun Cyn- Adneuo).
Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn cynrychioli drafft rhannol o'r CDLl Newydd, yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd o ymgynghoriadau blaenorol a'r sylfaen dystiolaeth sydd ar gael a gasglwyd hyd yma.
Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys:
- maint y cartrefi, swyddi a chyflogaeth a gynigir
- y Safleoedd Allweddol a'r dyraniadau presennol a nodwyd i gefnogi twf
- Y polisïau strategol i gefnogi cyflawni Gweledigaeth ac Amcanion y CDLlA.
Yr ogystal, mae’r Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol (CSY), yr Cychwynol Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) – Arfarnu Dewisiadau Amgen a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) – Adroddiad Sgrinio hefyd ar gael ar gyfer sylwadau.
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth yma.
Creu Gwent Decach
Mae adroddiad Marmot Gwent Creu Gwent Decach: gwella tegwch iechyd a'r penderfynyddion cymdeithasol a luniwyd gan y Sefydliad Tegwch Iechyd, bellach wedi cael ei gyhoeddi.
Mae'r adroddiad yn trafod y sefyllfa yng Ngwent ar hyn o bryd. Yma mae anghydraddoldebau sylweddol o ran iechyd, addysg, tai, incwm a chyflogaeth ym mhob cwr o ardaloedd yr awdurdodau lleol.
Wedi ei chynnwys yn yr adroddiad hefyd mae rhestr awgrymedig o ddangosyddion mesur ac argymhellion. Eu diben yw cynorthwyo o ran monitro cynnydd camau gweithredu ar draws y system er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella penderfynyddion cymdeithasol iechyd yng Ngwent.
Gan fod yr adroddiad bellach ar gael, hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan glywed barn dinasyddion ledled Gwent i’n helpu i ymgorffori’r gwaith hwn.
Cynllun Gweithredu Lleol Casnewydd yn Un – Drafft Ymgynghori
Dyddiad cau’r ymgynghoriad - 31ain Hydref 2023
Mae Casnewydd yn Un wedi bod yn gweithio ar Gynllun Gweithredu Lleol newydd a fydd yn cwmpasu’r gwaith pwysig sydd angen cydweithrediad agos a chydweithio rhwng gwahanol sefydliadau gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Heddlu Gwent, Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r cynllun hwn yn ystyried gwahanol agweddau ar y ddinas y mae angen inni ganolbwyntio arnynt i wneud Casnewydd yn lle gwell nawr a hefyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym wedi nodi’r themâu a’r camau gweithredu allweddol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yng Nghasnewydd ac rydym nawr eisiau gwybod beth yw eich barn am ein Cynllun Gweithredu Lleol drafft.
I gael rhagor o wybodaeth am Gasnewydd yn Un a’r Cynllun Gweithredu Ardal Leol e-bostiwch [email protected]
Ymgynghoriad ar bolisi trwyddedu tacsis drafft
Dyddiad cau’r ymgynghoriad Dydd Llun 22 Hydref 2023.
Bu’n ofynnol i Gyngor Dinas Casnewydd (yn ei rôl fel awdurdod trwyddedu) adolygu ei Bolisi Trwyddedu Cerbydau Hacni a Hurio Preifat yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Drafnidiaeth ar dacsis.
Canllawiau Llywodraeth Cymru.
Os hoffech wneud sylw am y polisi drafft, gwnewch hynny yn ysgrifenedig i [email protected] erbyn 22 Hydref 2023. Os hoffech drafod y Polisi Drafft gyda'r tîm mae croeso i chi gysylltu â ni .
Polisi drafft (pdf)
GDMC Arcêd y Farchnad
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad yw: 14 Medi 2023
Mae’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) ar gyfer Arcêd y Farchnad, a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2020, yn dod i ben ym mis Tachwedd 2023 ac rydym bellach yn ymgynghori â thrigolion i adnewyddu'r Gorchymyn.
Dweud eich dweud ar y GDMC newydd ar gyfer Arcêd y Farchnad
Arolwg Canfyddiadau Diogelwch Cymunedol
Dyddiad cau’r ymgynghoriad 10 Medi 2023
Mae Cyngor Dinas Casnewydd, Heddlu Gwent a'u partneriaid Casnewydd Ddiogelach yn gweithio ar Asesiad Anghenion Strategol a fydd yn ein helpu i ddeall materion diogelwch cymunedol, penderfynu ar flaenoriaethau a'r hyn y mae angen i ni ei wneud amdanynt. I wneud hyn, rydym am glywed gan bobl leol a bydd yr arolwg hwn yn ein helpu i ddeall canfyddiadau pobl am ddiogelwch cymunedol mewn gwahanol leoliadau. Rydym yn eich annog i gwblhau'r arolwg a'i rannu, gan ein bod eisiau ystod eang o safbwyntiau.
Bydd yr arolwg hwn hefyd yn llywio strategaethau pwysig eraill gan gynnwys cynllun cydraddoldeb strategol y Cyngor, a phenderfyniadau gwariant y Cyngor.
Arolwg gwefan
Mae Cyngor Dinas Casnewydd am wella ei bresenoldeb ar-lein.
Fel rhan o'r broses hon, hoffem gael eich barn ar ein gwefan bresennol.
Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech gwblhau’r arolwg byr i’n galluogi i adeiladu eich adborth i mewn i unrhyw ddatblygiadau sydd i ddod.
Strategaeth pwyntiau gwefru cerbydau trydan ddrafft
Rydym am glywed eich barn am ein cynlluniau i gynyddu pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Nghasnewydd.
Daw tua 27 y cant o allyriadau carbon Casnewydd o drafnidiaeth. Mae lleihau'r rhain yn flaenoriaeth allweddol i'r cyngor wrth i ni anelu at ddod yn ddinas ddi-garbon net erbyn 2050.
Er mwyn helpu pobl i newid i gerbydau trydan, mae'n bwysig ein bod yn datblygu rhwydwaith gwefru sy'n diwallu anghenion ein trigolion a'n hymwelwyr nawr ac yn y dyfodol.
Mae gennym ddiddordeb mawr mewn dysgu eich barn ar ein strategaeth ddrafft a'r hyn y credwn y gallwn ei wneud i hyrwyddo perchnogaeth ceir trydan ymhellach.
Cymuned Werdd Gysylltiedig Iscoed
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cyflawni prosiect ardaloedd natur gymunedol yn Iscoed gyda’r bwriad i greu ardaloedd gall pobl a natur mwynhau.
Bydden ni wrth ein modd clywed eich barn ar y prosiect yma a bydden ni’n gwerthfawrogi os gallech gymryd pum munud i gwblhau ein harolwg.
Bydd eich adborth i’r cwestiynau canlynol yn helpu ffurfio’r dyfodol o’ch cymdogaeth.
Cwestiynau cyffredin (pdf)
Gwella teithio yng Nghanol Casnewydd
24 Chwefror 2023 - 6 Ebrill 2023
Rydym eisiau eich barn ar gynigion ar gyfer gwella opsiynau teithio yng nghanol y ddinas.
Mae'r cyngor a Thrafnidiaeth Cymru am wella'r profiad o deithio i orsaf reilffordd Casnewydd, glan yr afon a thrwy Old Green.
Y weledigaeth yw i orsaf reilffordd Casnewydd ddod yn ganolfan ar gyfer teithio cynaliadwy a'n nod yw gwneud y ddinas yn lle brafiwch i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef, tra'n helpu pobl i fod yn llai dibynnol ar geir.
Er mwyn helpu i wella diogelwch y cyhoedd, bydd y cynigion yn anelu at greu amgylchedd sy'n canolbwyntio’n fwy ar bobl drwy greu llwybrau teithio llesol symlach sy'n gyfleus ac yn ddeniadol i'r holl ddefnyddwyr.
http://haveyoursay.tfw.wales/gwelliannau-teithio-casnewydd-canolog
Ymgynghoriad ar barciau a gwella chwarae Pillgwenlly.
Mae Tîm y Parciau yn anelu at wella ardaloedd chwarae yng Nghasnewydd. Mae'r prosiect wedi sicrhau cyllid i uwchraddio mannau chwarae i ddarparu mannau chwarae diogel a hwyliog i blant.
Bydd ein hymgynghoriad cyntaf yn canolbwyntio ar Ganolfan Mileniwm Pilgwenlly a Stryd Rhiw’r Perrai. Gallwch ymweld â'n hymgynghoriad personol Pillgwenlli Asda, dydd Iau 30 Mawrth 9am-4pm.
Cynllun datblygu lleol newydd - twf ac opsiynau gofodol
Ar gau - 8 Mawrth 2023
Mae'r ymgynghoriad twf ac opsiynau gofodol yn ystyried graddfa’r twf (tai a chyflogaeth) ac opsiynau eang ar gyfer lle y gellid lleoli'r twf hwnnw (opsiynau gofodol).
Bydd eich adborth yn helpu i fireinio'r twf a’r opsiynau gofodol er mwyn cynrychioli orau’r cymunedau sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chasnewydd.
Teledu camerau cylch pont Devon Place
Ar gau - 28 Chwefror 2023
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn gosod camerâu cylch cyfyng o amgylch pont newydd Devon Place.
Bydd y camerâu yn cael eu gosod yn y lleoliadau canlynol:
- Bydd dau (un trem-gogwydd-chwyddo ac un statig) yn cael eu rhoi ar wal yr hen Orsaf Wybodaeth ar Queensway
- Bydd dau (un trem-gogwydd-chwyddo ac un statig) yn cael eu rhoi ar golofn ger Dragon Taxis.
- Bydd tri (un trem-gogwydd-chwyddo a dau statig) yn cael eu rhoi ar ochr Devon Place y bont.
Bydd y camerâu yn cael eu defnyddio er diogelwch pobl sy'n defnyddio'r bont, gan weithredu fel rhwystr i ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol posib, a rydym yn awyddus i glywed eich barn ar yr effaith y gallai'r newid hwn ei chael.
Arolwg Tai i’r rhai dros 55 oed
Ar gau: 13 Chwefror 2023
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gofyn i drigolion dros 55 oed gwblhau arolwg byr, dienw i roi cipolwg ar eu sefyllfa tai.
Mae ymchwil yn cael ei wneud i ddatblygu argymhellion i wella gwasanaethau a chymorth i bobl dros 55 oed.
Bydd eich adborth yn llunio'r cynigion a gall fod o gymorth i ddatblygu prosiectau sy'n digwydd dros y blynyddoedd nesaf.
Polisi Derbyn i Ysgolion 2024/25
Ar gau: 17 Chwefror 2023
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig i’r trefniadau derbyn i ysgolion a ddaw i rym o fis Medi 2024.
Un o ofynion statudol Cod Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru yw bod y Cyngor (fel yr awdurdod derbyn ar gyfer yr holl ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yng Nghasnewydd) yn cynnal ymgynghoriad blynyddol ar drefniadau derbyn i ysgolion yn y flwyddyn academaidd nesaf ond un.
Cynigion cyllideb – 2023/24
Ar gau: 2 Chwefror 2023
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gofyn i aelodau’r cyhoedd roi eu barn ar gyllideb ddrafft y cyngor a’r cynllun ariannol tymor canolig ar gyfer 2023/24.
Cyflwynwyd nifer o gynigion arbedion oherwydd bwlch yn y gyllideb o tua £27.6 miliwn.