Cysylltu â'r cyngor

Gallwch gael gwybodaeth am wasanaethau’r cyngor trwy chwilio’r rhestr o wasanaethau’r cyngor neu gysylltu â’r cyngor.

Gwneud ymholiad cyffredinol

Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i breswylwyr 

Anfonwch neges e-bost at [email protected]

Darllenwch y Nodyn Canllaw E-bost (pdf) 

Gwybodaeth am dderbyn negeseuon e-bost diogel gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Ffoniwch (01633) 656 656 rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Anfonwch neges destun at 60777 trwy roi NCC ac yna eich neges.

Twitter

Facebook

Ysgrifennwch at:

Gyngor Dinas Casnewydd
Y Ganolfan Ddinesig
Heol Godfrey
Casnewydd
De Cymru
NP20 4UR
Cyfeiriad Cyfnewid Dogfennau (DX): DX 99463 Newport (Gwent) 3

Siarter Gwsmeriaid

Lawrlwythwch Siarter Gwsmeriaid Cyngor Dinas Casnewydd (pdf)

Strategaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid

Lawrlwythwch Strategaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid 2012-2017  (pdf)

Lles staff

Mae gan weithwyr NCC yr hawl i weithio heb ofni aflonyddu, cam-drin neu drais.

Ni fydd unrhyw fath o ymddygiad ymosodol yn cael ei oddef o dan unrhyw amgylchiadau. Bydd y cyngor yn cymryd unrhyw ymddygiad sarhaus, bygythiol neu dreisgar o ddifrif.

Gall yr ymddygiad gael ei gofnodi a'i rannu rhwng adrannau perthnasol y cyngor. Gallai arwain at dynnu rhai o wasanaethau'r cyngor yn ôl.

Mae'n bosibl y bydd cyfyngiadau ar sut y byddwch yn cysylltu â'r cyngor. Gellir ei reoli hefyd mewn modd penodol.

Rydym yn cadw'r hawl i gysylltu â'r heddlu. Gall hyn arwain at erlyniad.

Ardal Wybodaeth

Llyfrgell Ganolog Casnewydd, Sgwar John Frost, Kingsway, Casnewydd, NP20 1PA

Mae ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid yn gweithredu yn Llyfrgell Ganolog Casnewydd. Maent yn cynnig ystod o wasanaethau gan gynnwys:

  • Talu am wasanaethau cyngor fel Treth y Cyngor neu Ardrethi Busnes (cerdyn neu arian parod)
  • Casglu neu ollwng ffurfleni cyngor
  • Casglu bagiau ailgylchu bwyd
  • Gollwng post am wasanaethau cyngor
  • Defnyddio’r cyfrifiaduron hunan wasanaeth i fynedu ein gwefan
  • Ymweld â’r Tîm Gwasanaethau Tai
  • Mynychu apwyntiadau wedi’i archebu ymlaen llaw gyda thîmau Treth y Cyngor neu Gynllunio

Oriau agor i’r Ardal Wybodaeth:

Dydd Llyn: 10yb - 4yp

Dydd Mercher: 12yp - 6yp

Dydd Gwener: 8yb - 2yp 

Oriau agor i Gynllunio neu Dreth Cyngor:

Dydd Llun Cynllunio: 10yb - 4yp

Dydd Mercher Treth Cyngor: 12yp  6yp

Dydd Gwener Treth Cyngor: 8yb - 2yp

Mae’r gwasanaethau yma yn apwyntiadau yn unig.

Drefnu apwyntiad yma

Oriau agor i’r Tîm Gwasanaethau Tai (llawr 2):

Dydd Llun i Ddydd Gwener: 9yb - 12:30

Dydd Llun i Ddydd Gwener: 2yp - 4:30yp

Cysylltwch â’ch cynghorydd

Gallwch gysylltu â’r 51 o gynghorwyr etholedig yng Nghyngor Dinas Casnewydd trwy e-bost, ffôn neu bost arferol.

Chwiliwch am eich cynghorydd[U6]  yn ôl enw neu ward.

Lawrlwythwch rifyn diweddaraf y cylchlythyr preswylwyr, Materion Casnewydd

Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion

Anfonwch eich syniadau ac awgrymiadau at y cyngor.

Cysylltwch â ni i ganmol neu gwyno am wasanaethau’r cyngor.

Mae gweithdrefnau ar wahân ar gyfer cwynion gwasanaethau cymdeithasol.

Cynllun Deisebau

Ein nod yw bod yn agored ac yn ymatebol i anghenion dinasyddion a chymunedau. Mae hyn yn golygu cynnwys pobl leol mewn prosesau cyfranogol, lle gall trigolion ddylanwadu ar bolisi a gwasanaethau a'u siapio. 

Mae cyfranogiad yn ymwneud â rhannu penderfyniadau gyda'r rheiny y mae'r penderfyniadau hynny’n effeithio arnynt, ac mae’n rhan annatod o'n gwaith. Nid yw'n ymwneud â rhoi i grwpiau neu unigolion beth bynnag y maent yn gofyn amdano, ac mae’n  digwydd yn gyffredinol â chyfyngiadau, gan gynnwys lles ac arian. Fodd bynnag, dylai fod gan drigolion rywfaint o bŵer o ran gwneud penderfyniadau bob amser fel eu bod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu deall. Ein nod bob amser yw dweud yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud o ganlyniad i glywed barn trigolion, a pham.

Mae Cynllun Deisebau'r Cyngor yn un o'r nifer o ffyrdd y gall trigolion gysylltu â’r Cyngor a rhoi adborth iddo.

Darllen mwy yma