Y Canfasiad Blynyddol
Bob haf, mae rhaid i'r cyngor gael enw a chyfeiriad pob person sy'n gymwys i fod ar y gofrestr etholwyr - y rhestr o'r rhai sy'n gallu pleidleisio mewn etholiadau a refferenda.
Yng Nghymru, gall pobl ifanc gofrestru o 14 oed a phleidleisio mewn rhai etholiadau yn 16 oed. Mae gwladolion tramor hefyd yn gallu pleidleisio yn etholiadau Cymru.
Bydd y canfasiad yng Nghasnewydd yn dechrau ym mis Gorffennaf ac yn parhau yn ystod mis Awst. Bydd pobl sydd wedi dewis cyfathrebu drwy e-bost yn derbyn hysbysiad e-bost ym mis Awst.
Gwiriwch eich llythyrau'n ofalus gan fod rhaid i chi ymateb os oes angen.
Dilynwch y cyfarwyddiadau yn eich e-bost neu lythyr.
Gellir gwneud hyn ar-lein, dros y ffôn, tecst neu drwy ddychwelyd y ffurflen.
Er mwyn gwybod pwy sy’n gymwys i gofrestru i bleidleisio, mae angen i ni wybod pwy sy’n byw yn eich cyfeiriad. Pwrpas y ffurflen hon yw casglu'r wybodaeth hon. Er nad yw’r ffurflen hon yn ffurflen gofrestru, bydd y wybodaeth a roddwch yn ein galluogi i anfon ffurflen cofrestru unigol ar wahân i bob person yn eich aelwyd sy'n gymwys ac sydd angen cofrestru.
Pam mae rhaid i chi ymateb os gofynnir i chi ei wneud:
Mae'n orfodol - gallai methiant arwain at ymddangosiad llys, dirwy o hyd at £1,000 a chofnod troseddol.
- Dim ond y rhai ar y gofrestr sy'n cael pleidleisio a helpu i benderfynu pwy sy'n eu cynrychioli, eu hardal leol neu pwy sy'n ffurfio'r cyngor neu'r llywodraeth nesaf.
- Cyflenwir y gofrestr i asiantaethau gwirio credyd, felly gall peidio â chofrestru effeithio ar eich gallu i agor cyfrif banc, cael morgais, neu brynu pethau ar gredyd.
- Caiff rheithgorau eu galw gan ddefnyddio'r gofrestr etholiadol.