Asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb
Mae Asesiadau Effaith Tegwch a Chydraddoldeb (AEDChau) yn ddull systematig o sicrhau bod y cyngor yn gwneud penderfyniadau teg, yn ystyried tystiolaeth berthnasol, ac yn ceisio sicrhau'r deilliannau gorau i'n cymunedau.
Mae AEDChau yn ein cynorthwyo i sicrhau bod ein proses o wneud penderfyniadau yn gynhwysol ac yn ein helpu i ganolbwyntio ar sut y gallwn leihau unrhyw effeithiau negyddol. Er enghraifft, byddai unrhyw wasanaeth newydd yn cael ei asesu i ystyried yr effaith ar bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a nodi newidiadau neu gamau sydd eu hangen i hybu tegwch ar draws grwpiau.
Mae ein dull asesu effaith integredig hefyd yn ystyried ein cyfrifoldebau deddfwriaethol o dan y canlynol:
- Deddf Cydraddoldeb (2010), gan gynnwys y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015)
- Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
- Ddeddf y Lluoedd Arfog (2021)
AEGau wedi'u cwblhau yn ôl blwyddyn
Cyswllt
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â [email protected].