Gwir Anrhydeddus Faer Casnewydd
Y Cynghorydd Ray Mogford yw 392 Maer Casnewydd.
Cafodd y Cynghorydd Mogford ei eni a'i fagu yng Nghasnewydd. Mynychodd Ysgol Uwchradd Hartridge ac yn ddiweddarach ymunodd â'r Awyrlu Brenhinol yn astudio afioneg. Ar ôl gadael yr Awyrlu Brenhinol bu’n gweithio yn y diwydiant lled-ddargludyddion, gan ymddeol yn 2022.
Ers cael ei ethol i’r cyngor am y tro cyntaf yn 2012 mae’r Cynghorydd Mogford wedi gwasanaethu ar lawer o bwyllgorau’r cyngor, gan gynnwys y pwyllgor cynllunio a’r pwyllgorau llywodraethu ac archwilio.
Yn fwyaf diweddar bu’n gadeirydd y pwyllgor gwasanaethau democrataidd ac mae ar fwrdd llywodraethwyr ysgolion cynradd Langstone a Llanmartin.
Bydd ei wraig, Sallie, fel maeres yn ymuno â'r Cynghorydd Mogford.
Dywedodd: “Mae Sallie a minnau’n gyffrous iawn i ymgymryd â swyddi maer a maeres ac edrychwn ymlaen at flwyddyn weithgar iawn.”
Dirprwy faer
Bydd y Cynghorydd Chris Reeks yn dal rôl ddirprwy faer ar gyfer 2024/25 gyda’i wraig Jane yn ddirprwy faeres.
Mae’r Cynghorydd Reeks wedi bod yn Gynghorydd Dinas Casnewydd ers 2022. Mae’n berchen ac yn rhedeg busnes gweithgynhyrchu yn y ddinas sydd â’r nod o gefnogi a thyfu’r economi leol.
Dywedodd y Cynghorydd Reeks: “Rwy’n mwynhau’n fawr allu helpu a chefnogi trigolion Casnewydd gyfan, a bob amser yn anelu at wneud gwahaniaeth lle y gallaf i fywydau pobl.”
Gwahodd y maer i ddigwyddiad
Mae gan y maer ddyletswydd ddinesig i gynrychioli a hyrwyddo dinas Casnewydd.
I wahodd y maer i ddigwyddiad, llenwch ffurflen wahoddiad ar-lein cyn gynted â phosibl (lleiafswm o dair wythnos ymlaen llaw).
Nodwch fod gan y maer amserlen brysur ac nid yw bob amser yn bosibl mynychu digwyddiadau ar fyr rybudd.
Am brotocol digwyddiadau a chyngor gallech e-bostiwch.
Cadwyni Swydd y Maer
Mae Arfbais Casnewydd yn rhan o gadwyni'r maer, ac mae dau ohonynt, un ar gyfer y maer ac un ar gyfer y faeres.
Ym mis Mawrth 2002 daeth Casnewydd yn ddinas fwyaf newydd Cymru, a grëwyd i nodi Jiwbilî Aur y Frenhines. Mabwysiadwyd y cadwyni maer presennol gan y ddinas ac maent bellach yn cael eu gwisgo gan faer a maeres Dinas Casnewydd.