Beiciau i roi mwy o ryddid i bobl anabl
Wedi ei bostio ar Tuesday 2nd July 2019
Bydd y beiciau sydd wedi’u haddasu’n arbennig yn cael eu darparu gan Pedal Power
Mae project peilot i gyflwyno beiciau sy’n addas i’w defnyddio gan bobl ifanc ac oedolion anabl yn cael ei gyflwyno ym Mharc Tredegar, Casnewydd.
Bydd y fenter am ddim gan Gyngor Dinas Casnewydd yn gwella’r cyfleusterau yn y parc poblogaidd lle bydd llwybr beicio gwell yn mynd â defnyddwyr o amgylch y parc.
Bydd y beiciau sydd wedi’u haddasu’n arbennig yn cael eu darparu gan Pedal Power sy’n cynnal cynllun tebyg o Barc Bute yng Nghaerdydd.
Mae’r Cynghorydd Deb Harvey, yr aelod cabinet dros ddiwylliant a hamdden, wedi dewis y project oherwydd y bydd yn helpu pobl o bob gallu i fwynhau gweithgaredd hamdden gyda’i gilydd.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae mwy na £1 miliwn wedi’i fuddsoddi ym Mharc Tredegar gan gynnwys offer chwarae plant newydd a pharc sglefrio'r ddinas.
Mae’r parc yn parhau i fod yn boblogaidd ac yn cael ei ddefnyddio’n fynych gan deuluoedd, cerddwyr, beicwyr a thimau chwaraeon sy’n defnyddio’r caeau’n rheolaidd.
Dywedodd y Cynghorydd Harvey: “Roeddwn am sicrhau y gall pobl o bob oed a gallu ddefnyddio amrywiaeth o gyfleusterau ym Mharc Tredegar.
“Ar ôl edrych ar amrywiaeth o ddewisiadau rydym wedi dewis y cynllun “Pedal Power” a fydd yn rhoi’r un rhyddid i bobl ifanc ac oedolion anabl ag eraill sy’n defnyddio eu beiciau yn y parc hwn.
“Bydd yn rhoi mwy o ryddid i deuluoedd pobl ifanc anabl fwynhau’r cyfleusterau gyda’i gilydd.
“A gall cyn-filwyr hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yn enwedig y rheiny sydd wedi colli braich neu goes yn ymladd yn Afghanistan ac Iraq. Bydd yr amrywiaeth o feiciau a fydd ar gael yn gallu diwallu anghenion pobl o bob gallu ac oedran.”
Mae paratoadau ar y gweill nawr i roi’r project ar waith.