Gwaith wedi'i gwblhau ar lwybr teithio llesol yng Nghoed Melyn
Wedi ei bostio ar Wednesday 30th December 2020
Mae gwaith wedi'i gwblhau'n ddiweddar ar greu llwybr teithio llesol newydd ym Mharc Coed Melyn.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwneud gwelliannau yn y parc yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr am gyflwr y llwybr troed presennol.
Yn llwybr cerdded poblogaidd eisoes, nodwyd hefyd fod hwn yn llwybr seiclo oddi ar y ffordd posibl o Risca Road, drwy’r man agored i lawr i Rodfa’r Gorllewin.
Sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau er mwyn creu llwybr Teithio Llesol yn cynnwys arwyneb lletach, mwy gwastad sy’n hygyrch i bawb.
Mae’r arwyneb newydd hefyd yn cynnwys nodweddion arbennig i ddiogelu gwreiddiau’r coed gerllaw.
Dyluniwyd y goleuadau isel a osodwyd ar y llwybr gyda'r amgylchedd mewn cof ac i leihau'r effeithiau ar fywyd gwyllt.
Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y cyngor, "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu creu llwybr teithio llesol arall i drigolion Casnewydd.
"Roeddem wedi cael adborth adeiladol iawn ar gyflwr y llwybr troed presennol drwy'r parc yng Nghoed Melyn, ac rydym wedi gweithio nid yn unig i fynd i’r afael â’r pryderon hynny, ond hefyd i wella'r llwybr drwy ei wneud yn fwy hygyrch i bob defnyddiwr.
“Rydym wedi ymrwymo fel cyngor i gynyddu nifer y llwybrau teithio llesol ledled y ddinas, a byddwn yn ymgynghori â thrigolion, busnesau a grwpiau cymunedol yn y flwyddyn newydd ar sut a ble y gallwn wneud gwelliannau i'r rhwydwaith."