Casnewydd yn ymgeisio i ddod yn Ddinas Diwylliant 2025
Wedi ei bostio ar Wednesday 21st July 2021
Mae Casnewydd wedi camu ymlaen yn yr ornest i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025.
Os daw’n fuddugol, bydd y ddinas yn cynnal rhaglen flwyddyn o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau sy'n dathlu diwylliant amrywiol Casnewydd, gan roi hwb i amlygiad y ddinas yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Soniodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, am y cais uchelgeisiol:
"Mae Cyngor Dinas Casnewydd a'i bartneriaid wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn teimlo'n dda am fyw, gweithio, ymweld a buddsoddi yn ein dinas. Rydym am fanteisio ar bob cyfle i hybu hyder a balchder yn ein cymunedau a dangos Casnewydd ar ei gorau i'r byd ehangach – dyna pam rydym am gamu ymlaen i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025."
Mae datganiad o ddiddordeb wedi'i gyflwyno i’r llywodraeth ganolog sy'n manylu ar sut y bydd y Cyngor a'i bartneriaid yn manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at yr hyn sydd gan ein dinas a'n rhanbarth i'w gynnig a'i ddefnyddio fel sbardun ar gyfer newid.
Ar gyfer y cam nesaf, gwahoddir nifer o ymgeiswyr i gyflwyno cynnig llawn erbyn mis Ionawr 2022. Bydd y ddinas neu'r dref fuddugol yn cael ei chyhoeddi yng ngwanwyn 2022.
Ychwanegodd y Cynghorydd Mudd: “Mae Casnewydd yn ddinas sydd â thraddodiad diwylliannol a threftadaeth balch. Ni yw'r porth i dde Cymru, gyda chymunedau amrywiol a chyfoeth o ddiwylliannau, traddodiadau ac ieithoedd.
“Rydym hefyd yn rhan o ranbarth ehangach, a elwid gynt fel Gwent, lle mae cysylltiad anorfod rhwng ein gorffennol, ein presennol a'n dyfodol. Rydym yn rhannu hanes cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sy'n seiliedig ar ein treftadaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol.
"Rydyn ni eisiau herio a llunio barn pobl am Gasnewydd a thynnu sylw’r byd i’n diwylliant unigryw a'n hanes hir.
"Drwy gydweithio â'n partneriaid, ein cymunedau a'n gwirfoddolwyr – rydyn ni am adrodd ein stori. Rydyn ni am i bobl wybod am y frwydr dros hawliau democrataidd yma yng Ngwent. Rydyn ni am adrodd straeon pobl o bob cwr o'r byd sydd wedi dewis Casnewydd fel eu cartref drwy gydol y canrifoedd.
“Rydyn ni am helpu i hybu angerdd y ddinas dros gerddoriaeth, celf a thalent gynhenid – i glywed barddoniaeth, perfformiadau a cherddoriaeth yn ein mannau cyhoeddus, parciau a chymunedau ac yn deillio o'n sefydliadau mawr a bach. O chwaraeon elitaidd a digwyddiadau mawr i chwaraeon ar lawr gwlad yn ein cymunedau, rydyn ni am rannu a dathlu ein gweithgareddau ar draws y rhanbarth."
Mae gan Gasnewydd hanes cryf o weithio mewn partneriaeth a chynnal digwyddiadau mawr ar raddfa ryngwladol. Byddai'r prosiect hwn yn dwyn ynghyd sefydliadau ac unigolion i gyd gyda'r nod cyffredin o hyrwyddo pwysigrwydd cyfoeth diwylliannol y ddinas a'r rhanbarth i drigolion a'r byd ehangach.
Mae nifer o bartneriaid allweddol eisoes wedi ymrwymo i'r cynnig gan gynnwys Casnewydd Fyw, Casnewydd NAWR, Celtic Collection a Chanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Prifysgol De Cymru, Friars Walk, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Race Equality Cymru, Le Public Space, Hywel Jones a Gŵyl Fwyd Casnewydd, Urban Myth Films Ltd, Black Orchid Films Ltd, Screen Alliance Wales, Bright Branch Media, Mockingbird Media, aelodau o'r ddwy senedd a'n hawdurdodau lleol cyfagos yng Ngwent.
"Os byddwn yn ddigon ffodus i symud ymlaen i gam nesaf y broses gynnig, bydd ehangu'r cysylltiadau hynny a manteisio’n llawn ar syniadau a brwdfrydedd sefydliadau ar draws y ddinas a'r rhanbarth yn hollbwysig i ni gyflwyno cynnig a rhaglen ddigwyddiadau llwyddiannus.
"Bydd yr etifeddiaeth yn sylweddol – gwell mynediad at ddiwylliant a threftadaeth i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd, dod â chymunedau ynghyd, dathlu a gwell dealltwriaeth o'n hamrywiaeth ddiwylliannol, a cham arall i fyny ar y llwyfan byd-eang na all ond gwella ein taith i drawsnewid y ddinas. Rwy'n mawr obeithio y bydd pawb yn dod ynghyd i gefnogi'r cynnig." meddai’r Cynghorydd Mudd:
I gael rhagor o wybodaeth, i ddarllen llythyrau o gefnogaeth ac i gofrestru eich diddordeb fel partner neu gefnogwr ewch i www.cityofnewport.wales/dinasdiwylliant
Dangoswch eich cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #Casnewydd25