Dymchwel ysgol Sant Andreas wedi'i ohirio
Wedi ei bostio ar Wednesday 17th August 2022
Nid yw’n bosib dymchwel adeilad cyfnod allweddol dau Ysgol Gynradd Sant Andreas dros wyliau'r haf fel y bwriadwyd.
Mae arolygon ystlumod wedi datgelu presenoldeb dwy rywogaeth. Mae rhaid i'r ymchwiliadau hyn ddigwydd, yn ôl y gyfraith, cyn y gall unrhyw waith dymchwel ddigwydd.
Yn dilyn darganfyddiad annisgwyl yr ystlumod, mae rhaid cael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru cyn bod modd i'r gwaith fynd yn ei flaen.
Ar ôl sicrhau'r drwydded ofynnol, trefnir i waith ddechrau cyn gynted â phosib.
Mae'r adeilad wedi’i amgylchynu'n ddiogel ac mae camau wedi'u cymryd i sicrhau diogelwch y safle a'r gymuned.
Bydd y gwaith o godi'r adeilad cyfnod allweddol dau newydd yn dechrau ar ôl sicrhau caniatâd cynllunio. Mae disgwyl i gais gael ei gyflwyno'n ddiweddarach eleni.
Y bwriad yw cadw rhai eitemau o'r hen ysgol, lle bo modd, i greu nodwedd goffa ar y safle.
Mae gan yr adeilad cyfnod allweddol dau broblemau strwythurol sylweddol, gan gynnwys materion sylfaen cymhleth, na ellir eu hatgyweirio. Mae disgyblion a staff wedi cael eu hadleoli i Ganolfan Gyswllt Casnewydd Fyw a byddant yn aros yno tan y bydd yr adeilad newydd yn cael ei gwblhau. Bydd disgyblion meithrin a chyfnod allweddol un yn parhau ar safle Sant Andreas gan nad yw eu hadeiladau wedi eu heffeithio.