Digwyddiad i ddysgu mwy am faethu yng Nghasnewydd
Wedi ei bostio ar Tuesday 22nd November 2022
Mae Maethu Cymru’n cynnal digwyddiad i recriwtio rhagor o ofalwyr maeth y mae eu hangen ar frys ledled Cymru.
Mae timau maethu awdurdodau lleol Casnewydd, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy a Thorfaen yn cydweithio i annog mwy o bobl i faethu plant a phobl ifanc o’u hardaloedd lleol yn ogystal â cheiswyr lloches/ ffoaduriaid ifanc sy’n cyrraedd Prydain.
Bydd digwyddiad recriwtio galw heibio’n cael ei gynnal rhwng 11am a 3pm ar 26 Tachwedd yn y Neuadd Wydr, Marchnad Casnewydd i bobl sydd â diddordeb mewn bod yn ofalwyr maeth a darparu cartrefi i blant a phobl ifanc sydd eu hangen yn yr ardal leol.
Dywedodd y Cynghorydd Steve Marshall, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros wasanaethau cymdeithasol: "Mae ein gofalwyr maeth yn gwneud gwaith anhygoel ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc ac rydym am i fwy o bobl ymgymryd â'r rôl honno er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnig lle diogel a chariadus i fyw i bob plentyn.
“Cysylltwch â thîm cyfeillgar Maethu Casnewydd i glywed sut gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc."
Dywedodd Nina Kemp-Jones, un o Reolwyr Datblygu Rhanbarthol Maethu Cymru: “Mae angen brys am fwy o ofalwyr maeth o gefndiroedd amrywiol ar gyfer plant lleol a’r nifer cynyddol o ffoaduriaid ifanc. Mae dros 100 o ffoaduriaid ifanc yn dod i Gymru bob blwyddyn a chaiff canran fawr ohonynt eu rhoi yn yr ardal leol. Dylai Cymru fod yn wlad groesawgar ar gyfer ffoaduriaid ifanc sy’n ceisio nodded.”
Bu’r blynyddoedd diwethaf yn rhai heriol i faethu. Mae angen gweithredu ar frys i godi ymwybyddiaeth a recriwtio mwy o ofalwyr maeth yng Nghymru.
Rhannodd Mike, gofalwr maeth o Gasnewydd, ei brofiad fel rhan o ymgyrch genedlaethol i ganfod mwy o ofalwyr maeth: “Mae wedi ehangu fy nealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau a gwneud i mi sylweddoli pa mor debyg yw pawb. Rydyn ni gyd eisiau yr un pethau. Fe ofalais am un dyn ifanc a briododd y llynedd, roedd gyda fi am dair blynedd. Mae’n dal i siarad gyda fi bob wythnos. Mae’n fy nhrin fel ffigur tadol ac mae eraill hefyd sy’n dal i fyw yn yr ardal leol ac rwy’n eu gweld yn gyson. Mae’r rhain yn bobl ifanc sydd angen help a chael eu diogelu ac rwy’n ystyried fod hynny’n bwysig iawn. Rwy’n gwybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth.”
Cysylltwch â’ch tîm lleol https://fosterwales.newport.gov.uk/cy/cysylltu-a-ni/