Byddwch yn rhan o Ddiwrnod Rhuban Gwyn 2022
Wedi ei bostio ar Wednesday 23rd November 2022
Gwahoddir trigolion Casnewydd i gymryd rhan a chefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn ar Ddydd Iau 25 Tachwedd.
Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod y Cenhedloedd Unedig.
Bob wythnos yng Ngwent, mae 33 o fenywod mewn perygl difrifol oherwydd cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Eleni gofynnir i drigolion, busnesau, ysgolion, a grwpiau cymunedol gofrestru ar gyfer y #33Her i godi ymwybyddiaeth o'r ffigwr syfrdanol hwn.
Mae #Her33 yn cael ei gynnal gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol VAWDASV Gwent, cydweithrediad amlasiantaeth sy’n gweithio ledled Gwent i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae dangos cefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn yn ffordd bwysig o wneud safiad a chondemnio trais a chamdriniaeth yn erbyn menywod.
"Mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth o'r materion hyn a sicrhau bod menywod sy'n byw mewn ofn yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain a bod help ar gael. Dylai pawb wneud safiad a'i gwneud yn glir bod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn annerbyniol."
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn bwysig iawn i godi ymwybyddiaeth o'r effaith ddinistriol mae trais gan yn erbyn menywod yn gallu ei gael, nid yn unig ar unigolion ond ar eu teuluoedd hefyd.
"Eleni rydym yn annog pobl i gymryd rhan yn #Her33 i godi ymwybyddiaeth o'r nifer o fenywod sy'n byw mewn sefyllfaoedd o berygl dybryd bob wythnos oherwydd cam-drin domestig neu drais rhywiol.
"Mae angen eich help chi arnom ni ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn i annog pobl eraill i gymryd safiad yn erbyn trais yn erbyn menywod a gofynnaf yn daer ar unrhyw un sy'n dioddef camdriniaeth i godi llais a cheisio cymorth.
“Peidiwch â dioddef yn dawel, mae help ar gael.”
Mae llinell gymorth 24/7 Byw Heb Ofn am ddim ac mae ar gael i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan gamdriniaeth.
Mae'n cefnogi dioddefwyr, goroeswyr a'r bobl sy'n agos atynt. Ffoniwch 0808 8010 800 neu anfonwch neges destun: 078600 77333.
Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.
I riportio digwyddiad ffoniwch 101 neu anfonwch neges at sianeli cyfryngau cymdeithasol @heddlugwent.