Parêd a Gwasanaeth Coffa D-Day yng nghanol y ddinas
Wedi ei bostio ar Thursday 1st June 2023
Bydd gorymdaith a gwasanaeth Coffa D-Day yn digwydd eleni ar ddydd Sadwrn 3 Mehefin. Fe'i trefnir gan Cymdeithas Cymrodyr y Royal Welsh a dyma'r parêd cyntaf ers pandemig Covid-19.
Bydd Maer Casnewydd, y Cynghorydd Trevor Watkins, yn bresennol yn y digwyddiad, ynghyd â'r Arglwydd Raglaw Brigadydd Robert Aitken CBE a'r Uchel Siryf yr Athro Simon Gibson CBE DL. Byddan nhw i gyd yn gosod torchau ar ran y cyngor ynghyd ag arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd.
Bydd cyfranogwyr yr orymdaith yn cwrdd y tu allan i Wetherspoons, Cambrian Road o 11.30am gyda'r orymdaith yn gadael am 11.45am i gerdded y llwybr o Cambrian Road. Yna, bydd yn troi i'r chwith yn ardal gerddwyr Bridge Street, ac yna i’r chwith i'r Stryd Fawr at Gofeb D-Day, lle bydd gwasanaeth a seremoni gosod torchau byr yn digwydd.
Byddai Cymdeithas Cymrodyr y Royal Welsh wrth eu bodd pe bai modd i’r cyhoedd gefnogi’r digwyddiad drwy ddod i’r strydoedd i wylio’r orymdaith.
Mae D-Day yn nodi’r dyddiad hanesyddol yn 1944 pan ymosododd byddinoedd morol, awyr a thir y Cynghreiriaid ar Ffrainc oedd wedi’i meddiannu gan y Natsïaid.
Cyrhaeddon nhw draethau Normandi ar 6 Mehefin, a nododd ddechrau ymgyrch hir a gwaedlyd i ryddhau gogledd-orllewin Ewrop o feddiant yr Almaenwyr, ac a fu’n drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd.